Mae Y Selar yn falch iawn i gyhoeddi ein bod yn cydweithio â Gŵyl Ffiliffest i ychwanegu gig nos at arlwy yr ŵyl yng Nghastell Caerffili ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin eleni.
Bydd pedwar o fandiau ifanc mwyaf addawol y sin yn perfformio ar y noson sef Chroma, Mellt, Wigwam a’r grŵp lleol, Y Sybs.
Dyma’r hyfryd Heledd Watkins yn cyflwyno manylion llawn y gig ar ffurf celf weledol dyfeisgar:
Mae Ffiliffest, â gynhelir yn lleoliad unigryw iawn Castell Caerffili, wedi ei sefydlu ers rhai blynyddoedd bellach. Ac er bod llwyfan perfformio ar gyfer cerddoriaeth wedi llunio rhan o’r arlwy yn ystod y dydd yn y gorffennol, dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gynnal gig gyda’r hwyr.
Menter Caerffili sy’n gyfrifol am drefnu Ffiliffest, ond mae Y Selar yn gyfrifol am drefnu arlwy gerddorol llwyfan perfformio’r ŵyl yn ystod y dydd eleni, yn ogystal â chyflwyno’r gig nos newydd.
Rhamant gig mewn castell
“Roedd Ffiliffest wedi dal ein llygad fel gŵyl fach hyfryd mewn lleoliad eiconig, felly ro’n i’n awyddus iawn i gyd-weithio gyda Menter Caerffili” meddai Owain Schiavone o’r Selar.
“Ro’n i’n gweld bod cyfle i ddatblygu arlwy cerddorol yr ŵyl yn ystod y dydd ar y naill law, ond ar y llaw arall hefyd yn teimlo mai’r cam naturiol nesaf oedd cyflwyno gig gyda’r hwyr fyddai’n ehangu’r gerddoriaeth, ond hefyd yn apelio at gynulleidfa ychydig yn wahanol i un y dydd.
“Mae ‘na rhyw ramant ynglŷn â gig mewn castell hefyd, yn enwedig gyda’r hwyr wrth iddi dywyllu – bydd yr awyrgylch yn arbennig iawn. Mae gen i gof o glywed am gigs eiconig mewn cestyll Cymreig fel ‘Cicio’r Castell’ yng Nghastell Carreg Cennen, a Gŵyl y Cestyll yng Nghastell Caernarfon.”
Datblygu’r ŵyl ac ymestyn at gynulleidfa newydd ydy’r nod yn ôl un o’r prif drefnwyr…
“Mae Ffiliffest yn ŵyl lwyddiannus iawn, ac yn arbennig o boblogaidd ymysg teuluoedd yr ardal” meddai Morgan Roberts o Fenter Caerffili.
“Ond trwy ychwanegu gig yn y nos dwi’n gobeithio bydd yr apêl yn ehangu, ac yn denu mwy o bobl ifanc yn enwedig.
“Er bod tipyn o gigs lawr y ffordd yng Nghaerdydd, does dim llawer o gyfleoedd i bobl ifanc ardal Caerffili ei hun weld bandiau Cymraeg yn perfformio’n fyw, felly gobeithio bydd hyn yn rhoi cyfle i ddatblygu rhywbeth mwy rheolaidd.”
Bydd tocynnau Ffiliffest ar werth am ddim ond £5 ar wefan tocyn.cymru.