Y Sybs yn cipio teitl Brwydr y Bandiau

Y grŵp o Gaerdydd, Y Sybs, sydd wedi copïo teitl Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru eleni ar eu stepen drws ym Mae Caerdydd.

Roedd torf fawr wedi dod ynghyd yn ystod prynhawn dydd Mercher yr Eisteddfod, a digon o gefnogaeth i’r chwech band oedd yn cystadlu yn y rownd derfynol.

Y pump band arall oedd wedi cyrraedd y ffeinal oedd Miskin, Elis Derby, Wigwam, Carma ac Anorac, a gallwch ddysgu mwy am bob un ohonynt yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan rŵan.

Gellir dadlau mai Wigwam oedd grŵp mwyaf poblogaidd y gystadleuaeth, gyda nifer fawr o ffans wedi dod gyda nhw i’w cefnogi, ond y band arall o’r brifddinas, Y Sybs aeth a hi yn llygaid y beirniaid sef Lewys Wyn (Yr Eira), Steff Dafydd (Breichiau Hir) a Katie Hall (Chroma).

Mae Y Selar wedi bod yn dilyn datblygiad Y Sybs yn ofalus dros y misoedd diwethaf – roedden nhw’n un o’r bandiau berfformiodd yn ein gig ysgolion yn Ysgol Cwm Rhymni nôl ym mis Chwefror, a hefyd yn un o fandiau llwyfan perfformio gŵyl Ffiliffest ym mis Mehefin.

Rydan ni’n hoff iawn o egni y grŵp, a’u brwdfrydedd – maen nhw wedi datblygu tipyn fel band byw ers mis Chwefror heb os, a bydd ennill Brwydr y Bandiau yn siŵr o fod yn hwb mawr i’r pedwarawd

Fel rhan o’r wobr, bydd Y Sybs yn cael slot yn Maes B nos Sadwrn yma.