Roedd tipyn o sypreis i ffans Yr Ods wythnos diwethaf wrth i neges ymddangos ar gyfrifon Twitter a Facebook y grŵp yn cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau sengl newydd ddydd Gwener yma, 22 Mehefin.
‘Gadael Dy Hun i Lawr’ ydy enw’r sengl newydd, ac mae’r grŵp wedi awgrymu bod mwy o newyddion i ddod ganddyn nhw dros yr haf.
Y sengl newydd ydy cynnyrch cyntaf y grŵp ers y sengl ddwbl ‘Ble’r Aeth yr Haul / Hiroes i’r Drefn’ reit nôl yn Hydref 2015 wrth i aelodau’r grŵp fod yn brysur yn gweithio ar eu prosiectau cerddorol eraill.
Mae Griff Lynch wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth yn unigol, Gruff Pritchard wedi bod yn gweithio ar gerddoriaeth electroneg gyda Carcharorion, ac Osian Howells wedi rhyddhau albwm dan yr enw OSHH.
Recordiwyd y sengl newydd yn stiwdio fach Yr Ods yn Riverside, Caerdydd ond mae’r grŵp yn gyndyn i ddatgelu mwy o wybodaeth gan ddweud bod y sengl yn ran o rywbeth mwy “ond bydd popeth yn gwneud synnwyr yn hwyrach lawr y lein”, meddent wrth Y Selar.
Y sengl ydy Trac yr Wythnos Radio Cymru yr wythnos hon, ac mae’r sŵn ychydig yn fwy elecronig na’r hyn rydan ni wedi arfer ei glywed gan Yr Ods.
Mae’r grŵp eisoes wedi eu henwi fel un o brif fandiau Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni, ac maent hefyd wedi datgelu y byddan nhw’n perfformio yng Ngŵyl Lorient yn Llydaw a gynhelir yr un wythnos â’r Eisteddfod.
Dyma’r diwn newydd i chi: