10 Uchaf Caneuon Bandiau Mark a Paul

Byddwch yn gwybod erbyn hyn mai Mark Roberts a Paul Jones fydd yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni.
Mae’r ddeuawd wedi bod yn aelodau o rai o fandiau mwyaf dylanwadol Cymru dros y pedwar degawd diwethaf – Y Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc a mwy. Felly roedd rhaid cynnal pôl piniwn i weld pa 10 cân o ôl gatalog eu bandiau oedd y mwyaf poblogaidd ymysg darllenwyr Y Selar.
Dyma’r canlyniad…
10. Cofia Fi’n Ddiolchgar – Y Cyrff

9. Anwybyddwch Ni – Y Cyrff

8. Weithiau/Anadl – Y Cyrff

7. Eithaf – Y Cyrff

6. Mewn Plu – Y Cyrff

5. Gyda Gwên – Catatonia

4. International Velvet – Catatonia

3. Hwyl Fawr Heulwen – Y Cyrff

2. Llawenydd Heb Ddiwedd – Y Cyrff

  1. Cymru, Lloegr a Llanrwst – Y Cyrff (wrth gwrs!)