18 o Streaeon Cerddoriaeth Gymraeg 2018

Dim amheuaeth amdani, roedd 2018 yn glamp o flwyddyn fawr i gerddoriaeth Gymraeg. Nid yn unig rydan ni wedi gweld llwyth o senglau, llwyth o albyms a llwyth o fideos, rydan ni hefyd wedi gweld nifer o fandiau yn gwneud eu marc ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Bu cymaint o newyddion trwy gydol y flwyddyn, mae’n amhosib crynhoi popeth mewn un darn byr bachog a rhwydd i’w ddarllen wrth i chi nyrsio hangofyr y Nadolig a Nos Calan. Felly yn lle hynny, dyma ddeunaw o straeon sy’n sefyll allan o ddwy fil a deunaw a sy’n dweud rhywfaint o stori’r flwyddyn a fu.

Heather Jones i dderbyn gwobr Cyfraniad Arbennig

Wrth i ni ddechrau paratoi o ddifrif ar gyfer Gwobrau’r Selar, un o bytiau newyddion pwysicaf mis Ionawr bob blwyddyn ydy cyhoeddi enillydd ein gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ – Heather Jones oedd yr enillydd teilwng yn 2018.

Casgliad Cae Gwyn yn dathlu deg mlwyddiant

Label y cerddor Dan Amor, Cae Gwyn, fu un o labeli bach mwyaf bywiog Cymru dros y blynyddoedd diwethaf ac roedden nhw’n dathlu 10 mlwyddiant yn 2018.

Gwobrau’r Selar: Pedair Gwobr i Yws

Yws Gwynedd oedd enillydd mawr noson wallgof arall yn Aberystwyth ym mis Chwefror.

Gwobr Llwybr Llaethog i Mr Phormula

Tymor y gwobrau, a chyhoeddiad mai’r ardderchog Mr Phormula oedd y diweddaraf i dderbyn gong Llwybr Llaethog.

‘Catalunya’ ar y Cae Ras

Roedd gwrandawiad cyntaf o sengl newydd Gwilym i gefnogwyr CPD Wrecsam fis Ebrill.

Tiwn Adwaith yn dathlu pêl-droed merched Cymru

Cafodd Adwaith gryn lwyddiant yn ystod 2018, a chriw arall a gafodd lwyddiant mawr oedd tîm pêl-droed merched Cymru. Priodol felly mai ‘Fel i Fod’ oedd trac sain fideo uchafbwyntiau eu buddugoliaethau yn erbyn Bosnia-Herzegovina  a Rwsia ym mis Mehefin. Diolch i bartneriaeth gyda Gorwelion, defnyddiwyd traciau Alffa a HMS Morris ar gyfer pecynnau tebyg gan y Gymdeithas Bêl-droed yn hwyrach yn y flwyddyn.

Gruff Rhys ar frig y siartiau

Roedd albwm diweddaraf Gruff Rhys ar frig y siartiau Prydeinig ar gyfer siopau recordiau annibynnol ym mis Mehefin.

Cyhoeddi 12 artist Gorwelion

Mae Y Selar wedi gallu cydweithio tipyn gyda chynllun Gorwelion dros y blynyddoedd diwethaf, a llwyth o artistiaid gwych wedi eu cynnwys ar gynllun y BBC erbyn hyn. Cyffrous oedd clywed y 12 enw diweddaraf ym mis Mai, gan gynnwys y chwech sy’n canu’n y Gymraeg – HMS Morris, Alffa, Adwaith, No Good Boyo, Chroma ac Eädyth.

Fideo: Dangosiad cyntaf ‘Fyny ac yn Ôl’ – Gwilym

Un o’r nifer o ddangosiadau fideo cyntaf i’w cyhoeddi ar wefan Y Selar yn ystod y flwyddyn, sy’n hefyd wedi cynnwys ‘Dilyn’ gan Geraint Rhys a ‘Lluniau’ gan Iwan Huws. Ar ddiwrnod rhyddhau albwm cyntaf Gwilym ym mis Gorffennaf, roedd yn bleser gennym allu datgelu fideo ‘Fyny ac yn Ôl’ ar y wefan.

Albwm Cymraeg y Flwyddyn: Mellt yn mynd â hi

Ers ychydig flynyddoedd mae cyhoeddi enillydd gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn un o uchafbwyntiau cerddoriaeth gyfoes yr Eisteddfod Genedlaethol. Record Hir gyntaf Mellt, yr ardderchog Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, aeth â hi eleni.

Y Sybs yn cipio teitl Brwydr y Bandiau

Un arall o uchafbwyntiau’r Eisteddfod Genedlaethol, a llwyfan perfformio’r maes yn benodol, ydy rownd derfynol Brwydr y Bandiau. Roedd hi’n gystadleuaeth gref yn 2018, a’r grŵp lleol o Gaerdydd, Y Sybs, ddaeth i’r brig yn eisteddfod y Bae.

Feinyl Melyn a James Dean Bradfield

Dau bwt o newyddion cyffrous gan label Recordiau Libertino ym mis Medi. Rhyddhau manylion albwm cyntaf Adwaith, ac yna bod y trac ‘Gartref’ gan y grŵp wedi’i ail-gymysgu gan James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers.

Gŵyl i Gofio Chef

Loes calon oedd clywed y newyddion am golled y cerddor o Gaerfyrddin, Gareth ‘Chef’ Williams ym mis Mawrth. Roedd yr ŵyl a gynhaliwyd er cof amdano yn Y Parot yn deyrnged priodol.

Lewys yn Camu’n Ôl wrth symud ‘mlaen

Un o’r nifer o artistiaid ifanc sydd wedi canu i fyny a sefydlu eu hunain yn ystod 2019 ydy Lewys. ‘Camu’n Ôl’ oedd ei drydedd sengl o’r flwyddyn, ac roedd modd ei chlywed am y tro cyntaf ar wefan Y Selar ym mis Hydref.

Y Parot i Gau ei Ddrysau

Mae wedi bod yn flwyddyn o golli lleoliadau gigs amlwg yng Nghymru gwaetha’r modd, ond efallai mai’r golled fydd yn cael ei theimlo’n fwyaf ydy hwnnw yng Nghaerfyrddin. Caeodd Y Parot, sydd wedi bod yn gyrchfan pwysig i miwsôs y Gorllewin, ei drysau am y tro olaf ar nos Calan.

Mark Cyrff i Ryddhau Albwm Unigol

Un o bytiau newyddion mwyaf cyffrous y flwyddyn oedd bod cyn aelod Y Cyrff, Catatonia ac Y Ffyrc, Mark Roberts i ryddhau ei albwm unigol cyntaf. Mae modd darllen cyfweliad gyda Mark, ynghyd ag adolygiad o Oesoedd, yn rhifyn mis Rhagfyr o’r Selar.

Stori Ryfeddol Fideo Newydd 9Bach

Un o straeon mwyaf ddirdynnol y flwyddyn oedd hwnnw am fideo 9Bach ar gyfer y trac ‘Ifan’ oedd ar eu halbwm Anian. Rhaid darllen y stori a gwylio’r fideo i’w gwerthfawrogi’n llawn.

Llwyddiant Spotify yn Arwain at Albwm i Alffa

Bosib iawn mai’r stori am lwyddiant y trac ‘Gwenwyn’ ar Spotify oedd stori fawr 2018. Heb os, dyma garreg filltir bwysig i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, a cham mawr i Alffa sy’n siŵr o fynd o nerth i nerth dros y flwyddyn nesaf.

 

Dyna gau pen y mwdwl ar flwyddyn gofiadwy felly – ymlaen i 2019!