Cyhoeddi artistiaid llwyddiannus Cronfa Lansio Gorwelion

Mae cynllun Gorwelion wedi cyhoeddi enwau’r 28 o artistiaid a bandiau o bob rhan o Gymru sydd wedi llwyddo yn eu cais am arian i gefnogi eu datblygiad eleni.

Mae’r artistiaid buddugol yn cynnwys  enwau mor eang ag y cerddor gwerin Gwilym Bowen Rhys ar y naill law a Christian Punter o’r Rhondda, sy’n saernïo cerddi drwy ddefnyddio storïau sy’n deillio o’i bentref lleol ar y llall.

Bydd pob artist yn derbyn swm hyd at £2,000 i’w helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd a’u cerddoriaeth a chynnal gweithgareddau eraill a fydd o gymorth iddyn nhw i wireddu eu potensial.

Nod y cynllun ydy datblygu cerddoriaeth gyfoes newydd a daethderbyniwyd dros 100 o geisiadau eleni. Rhoddwyd y dasg o ddewis yr ymgeiswyr mwyaf cymwys i ddau banel a oedd yn cynnwys 20 o arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth.

Ers ei sefydlu yn 2014, mae Gorwelion a’r Gronfa Lansio wedi dyfarnu arian i 150 o artistiaid, o fwy na 60 o drefi, ar draws Cymru.

Eleni, cafodd y 28 artist llwyddiannus nawdd i’w helpu gydag amrywiaeth o fentrau, o logi lle ymarfer i weithio gyda chynhyrchwyr dawnus a recordio’n broffesiynol.

O’r cymysgedd amrywiol o geisiadau, bydd nifer yn cael cefnogaeth yn eu gwaith creadigol gyda grantiau tuag at amser stiwdio a chyfansoddi caneuon, ffotograffiaeth a gwaith celf wedi’u comisiynu’n arbennig, hyrwyddo gwaith sy’n cael ei ryddhau, offer ar gyfer perfformiadau byw, cynhyrchu fideo a chostau mynd ar daith.

Cyfnod cynhyrchiol i gerddoriaeth o Gymru

“Mae’n fraint gen i dderbyn cefnogaeth ariannol” meddai Gwilym Bowen Rhys wrth ymateb i’r gefnogaeth.

“Mae’n hwb gwerthfawr i gerddorion Cymreig sy’n ceisio lledaenu eu gwaith adref a thramor. Byddaf yn defnyddio’r pres i greu ffilm gerddoriaeth a ffilm ddogfen fer am fy albym newydd fydd allan mis Mai”.

“Rydym wedi gweld cerddoriaeth o Gymru yn mynd drwy gyfnod hynod o gynhyrchiol a phroffidiol yn y 12 mis diwethaf felly mae’n dda gweld y Gronfa Lansio yn parhau i ddarparu arian y mae mawr ei angen ar gyfer y criw newydd cyffrous o artistiaid sy’n dod drwodd” meddai Rheolwr Prosiect Gorwelion, Bethan Elfyn.

“Mae’r grantiau hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn darparu arian ar adeg holl-bwysig i artistiaid newydd, un ai i recordio neu i hyrwyddo deunydd newydd. Fe welwch o’r rhestr artistiaid mor gyffrous yw’r ystod o genres cerddorol a’r syniadau creadigol yng Nghymru ar hyn o bryd, yn amrywio o’r rhai sydd reit ar gychwyn eu taith i’r rhai sy’n cymryd y cam nesaf ac yn gwthio’u hunain ychydig yn bellach.”

Dyma’r 28 artist llwyddiannus sy’n cael cyfraniad o’r gronfa tuag at eu gweithgareddau:

Aleighcia Scott, Caerdydd – Fideo cerddoriaeth swyddogol a marchnata digidol ar gyfer ei halbwm cyntaf.

Accu, Maesycrugiau, Sir Gaerfyrddin – Gitâr drydan, pedalau a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer yr albwm nesaf.

Jessy Allen, Caerdydd – Recordio EP cyntaf 6-trac.

Bandicoot, Sgeti, Abertawe – Recordio sengl gyntaf yn y Gymraeg.

Gwilym Bowen Rhys, Bethel, Caernarfon – Recordio albwm newydd ac yn ffilmio.

Chembo, Wrecsam – Gwneud copïau meistr o recordiadau newydd a fideo cerddoriaeth.

Chrles, Biwmares, Ynys Môn – Ysgrifennu caneuon a recordio.

CHROMA, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf – Recordio albwm cyntaf.

GRAVVES, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint – Fideo cerddoriaeth a sesiwn tynnu lluniau.

EADYTH, Merthyr Tudful – Offer recordio.

Darren Eedens & The Slim Pickins, Caerdydd – Recordio albwm newydd.

Ennio the Little Brother, Shotton, Sir y Fflint – Taith o gwmpas y Deyrnas Unedig gyda’r band o Gymru, Campfire Social ac offer recordio

Eve Goodman, y Felinheli, Gwynedd – Ysgrifennu caneuon a hyfforddiant lleisiol pellach.

HANA2K, Sili, Bro Morgannwg – Gliniadur newydd ar gyfer ysgrifennu a recordio demos, sesiynau recordio, cymysgu a gwneud copïau meistr a fideos YouTube.

Rebecca Hurn, Porthcawl – Recordio deunydd newydd ar gyfer 3ydd EP, cynhyrchu CD a hyrwyddwr radio.

I SEE RIVERS, Dinbych-y-pysgod – Amser stiwdio i recordio albwm cyntaf.

Kidsmoke, Wrecsam – Cymysgu albwm cyntaf a gwneud copi meistr.

Los Blancos, Sir Gaerfyrddin – Recordio albwm a chysylltiadau cyhoeddus.

Marged, Caerdydd – Ysgrifennu caneuon a chynhyrchu albwm cyntaf.

Mellt, Aberystwyth – Offerynnau ac offer safonol ar gyfer perfformiadau byw.

Moletrap, Llanfair-ym-Muallt – Cwblhau albwm cyntaf.

No Good Boyo, Caerdydd – Recordio a rhyddhau albwm newydd, ffotograffiaeth a fideo.

Jack Perrett, Casnewydd – Recordio deunydd, fideo cerddoriaeth a ffotograffiaeth newydd a chysylltiadau cyhoeddus.

The Pitchforks, Rhondda Cynon Taf – Recordio dwy sengl newydd, video cerddoriaeth a thaith o gwmpas y Deyrnas Unedig.

Christian Punter, Glyn Rhedynnog, y Rhondda – Prosiect EP newydd yn defnyddio storïau sy’n deillio o’r gymuned leol.

Silent Forum, Caerdydd – Ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer albwm sydd i ymddangos yn fuan.

Daniel Soley, Caerdydd – Gwefan a dosbarthu cerddoriaeth.

VOYA, Caerdydd – Offer safonol ar gyfer perfformio’n fyw.

Roedd panelau’r Gronfa Lansio yn cynnwys:

Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion, BBC Cymru Wales; Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru; Aeron Roberts, Cyngor Celfyddydau Cymru; Gareth Iwan, BBC Radio Cymru, Ed Richmond, BBC Radio Wales; Dwynwen Morgan, BBC Radio Cymru; Dan Potts, BBC Radio Wales; Neal Thompson, Focus Wales, Wrecsam; Joel De’ath, Sony Music; Violet Skies, Cerddor; Liz Hunt, Cerddor a Hyrwyddwr; Spike Griffiths, Prosiect Forte; Owain Schiavone, Y Selar; Leo O’Brien, PPL; Rebecca Ayres, Sound City; Ffion Wyn, Newyddiadurwr Cerddoriaeth; Christina Macdonald, Gorwelion, BBC Cymru Wales; Skip Curtis, Darlithydd Busnes Cerdd, Prifysgol De Cymru; Bill Cummings, Sound & Vision PR; Simon Parton, Gorwelion, BBC Cymru Wales; Rachel K Collier, Cerddor.