Bydd sengl newydd Rhys Gwynfor yn cael ei ryddhau gan label Recordiau Côsh fory – ddydd Gwener , 6 Medi.
‘Bydd Wych’ ydy enw’r trac newydd, a dyma gynnyrch cyntaf rhys ers y ddwy sengl boblogaidd a ryddhaodd llynedd – ‘Capten’ ym mis Mehefin, a ‘Canolfan Arddio’ ym mis Hydref.
Er nad yw wedi rhyddhau cynnyrch yn ystod 2019 nes hyn, mae Rhys wedi bod yn brysur ar lwyfannau gigs gan berfformio yng Ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ddechrau Awst.
Yn ystod yr un cyfnod, mae Rhys a’i fand wedi bod yn gweithio ar ganeuon newydd, ac mae’n debyg bod hanner albwm yn ei le gan y cerddor sy’n dod yn wreiddiol o Lanyrafon ger Corwen.
Drwm @ Sain
Dyma’r sengl gyntaf ar label Côsh i’w recordio yn Stiwdio Sain yn Llandwrog, a hynny gan arweiniad cynhyrchwyr Stiwdio Drwm, sef Osian Williams ac Ifan Jones.
Yn nodweddiadol o gerddoriaeth blaenorol Rhys Gwynfor, mae’r g n yma unwaith eto’n un gofiadwy o’r gwrandawiad cyntaf, ac yn anthem sy’n debygol o gael ei chanu gan gynulleidfaoedd gigs byw Rhys yn y dyfodol.
Cafodd y gân ei chwarae ar y radio am y tro cyntaf ar sioe Radio Cymru Tudur Owen wythnos diwethaf, ac mae wedi bod yn ‘Drac yr Wythnos’ Radio Cymru yr wythnos hon.
Di’r trac ddim ar-lein eto, felly dyma’i sengl ddiwethaf ‘Canolfan Arddio’: