50 sengl cyntaf Sain allan yn ddigidol

A hwythau’n dathlu hanner can mlynedd ers ffurfio’r label Cymraeg eiconig, mae Recordiau Sain wedi ail-ryddhau’r 50 o senglau cyntaf y label ddydd Gwener diwethaf, 11 Hydref.

Mae’r senglau i gyd wedi eu rhyddhau’n ddigidol, a dyma’r tro cyntaf iddynt fod ar gael ar y fformat hwn.

“Mae edrych nôl dros hanner can mlynedd yn codi pob math o deimladau” meddai Dafydd Iwan, un o sylfaenwyr Recordiau Sain.

“Hiraeth, cyffro, syndod o feddwl am yr holl amrywiaeth o dalentau, chwerthin wrth gofio’r hwyl, a chwysu o gofio’r cyfnodau anodd.

“Mae’r daith yn rhannu yn ôl fformat yn aml – recordiau feinyl bach, recordiau feinyl mawr, casetiau, cryno-ddisgiau a DVD, a’r chwyldro digidol sydd bellach yn newid y cyfan.

Un o’r pethau sy’n sefyll allan yw’r gyfres o senglau 7” cynnar, oedd yn arddangos holl amrywiaeth y cyfnod, ogyffro’r sengl gynta ‘Dŵr’ gan Huw Jones, drwy gyfnod y caneuon protest a ‘Colli Iaith’ Heather Jones, caneuon unigryw Meic Stevens a hwyl y Tebot Piws drwodd at gyfnod ysgubol Edward H.”

‘Dŵr’, a ryddhawyd yn wreiddiol ym mis Hydref 2019, oedd sengl gyntaf y label…