9Bach i chwarae yn Taiwan, ac yn dathlu 10

Bydd y grŵp gwerin Cymraeg, 9Bach, yn perfformio yn Taiwan ym mis Tachwedd fel rhan o bartneriaeth gyda gŵyl Focus Wales yn Wrecsam.

Byddan nhw’n chwarae mewn gŵyl gerddoriaeth ryngwladol ‘LUCfest’ yn Tainan, Taiwan ar 8 – 10 Tachwedd fel rhan o ‘showcase’ a drefnir gan Focus Wales.

Mae’r ŵyl ddiwydiant cerddoriaeth Gymreig yn cynnal nifer o ymweliadau tramor gan fandiau Cymreig i wyliau ledled y byd. Cyhoeddwyd yn ddiweddar y byddai Chroma yn perfformio yn ‘MMVV’ yng Ngatalwnia fis Medi ac mae Baby Brave a Worldcub i chwarae yng ngŵyl ‘BreakOut West’ yng Nghanada fis Hydref.

Bydd Focus Wales hefyd yn mynd a bandiau sydd heb eu cadarnhau eto i ŵyl ‘Zandari Festa’ yn Seoul, Corea ddiwedd mis Medi ac i ŵyl ‘M for Montreal’ yng Nghanada ddiwedd Tachwedd.

Ail-ryddhau albwm cyntaf

Daw’r newyddion wrth i’r grŵp ddathlu 10 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm cyntaf, sy’n rhannu enw’r grŵp, yn 2009. Rhyddhawyd yr albwm, sy’n cynnwys fersiynau o ganeuon gwerin traddodiadol, yn wreiddiol ar label Gwymon, sef is-label gwerin Recordiau Sain.

Mae’r fersiwn newydd o’r albwm yn cael ei ryddhau ar label presennol 9Bach, sef y cewri Real World Records, ac yn cynnwys dau drac ‘bonws’ ychwanegol i’r albwm gwreiddiol. Mae gwaith celf newydd i’r casgliad hefyd.

Mae modd prynu’r albwm ar CD neu yn ddigidol.

Dyma un o ganeuon yr albwm, ‘Bwthyn Fy Nain’: