Mae albwm newydd Yr Ods, ‘Iaith y Nefoedd’, wedi derbyn adolygiad ffafriol yn rhifyn diweddaraf The Sunday Times a gyhoeddwyd ddydd Sul diwethaf, 24 Tachwedd.
Rhyddhawyd Iaith y Nefoedd, sy’n albwm cysyniadol ac yn rhan o brosiect ar y cyd â’r awdur Llwyd Owen, yn swyddogol ddydd Gwener diwethaf, 22 Tachwedd.
Mark Edwards sy’n adolygu’r casgliad ar ran y papur dydd Sul, ac mae’n cymharu rhannau o’r albwm gyda cherddoriaeth Syd Barrett, Peter Gabriel a’r Manic Street Preachers!
Dyma Griff Lynch o’r Ods a Llwyd Owen yn trafod y prosiect yn y Steddfod eleni: