Adwaith ar lein-yp Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Mae’r grŵp o Gaerfyrddin, Adwaith, wedi eu hychwanegu ar lein-yp Gŵyl y Dyn Gwyrdd eleni.

Gŵyl y Dyn Gwyrdd ydy gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru. Fe’i cynhelir yn y Bannau Brycheiniog rhwng 15 a 18 Awst eleni, gyda’r tocynnau i gyd eisoes wedi’i gwerthu ar gyfer y digwyddiad.

Bydd y triawd yn perfformio ar y ‘Mountain Stage’ ar nos Sadwrn yr ŵyl. Prin ydy’r artistiaid Cymraeg sy’n perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni yn anffodus, er bod Gwenno yn chwarae ar lwyfan ‘Far Out’ ar y nos Wener.

Roedd Meic Stevens yn wreiddiol wedi’i enwi fel rhan o’r don olaf o artistiaid fyddai’n perfformio rhyw bythefnos yn ôl, ond wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y trefnwyr na fyddai’n chwarae wedi’i cyfan yn dilyn honiadau iddo wneud sylwadau hiliol ar lwyfan Gŵyl Arall.

Ymysg prif enwau’r ŵyl eleni mae Eels, Villagers, Four Tet, Stereolab, Father John Misty a Yo La Tengo.

Daw’r newyddion am ychwanegu Adwaith i’r lein-yp yn dynn ar sodlau rhyddhau eu sengl newydd, ‘Hey!’ ddydd Gwener diwethaf, 26 Gorffennaf.