Bydd y grŵp o Gaerfyrddin, Adwaith, yn perfformio mewn gŵyl yng Nghanada ddiwedd mis Tachwedd fel rhan o brosiect sy’n cael ei arwain gan Focus Wales.
Bydd Adwaith yn chwarae yng ngŵyl ‘M for Montreal’ yn Quebec, Canada rhwng 20 a 23 Tachwedd.
Mae Focus Wales, yr ŵyl ddiwydiant cerddoriaeth a gynhelir yn flynyddol yn Wrecsam, wedi partneriaethau gyda nifer o wyliau rhyngwladol er mwyn cynnig llwyfan ‘showcase’ i artistiaid Cymreig yn y gwyliau hynny.
Roedd Chroma yn perfformio yn ‘MMVV’ yng Nghatalwnia yn gynharach ym mis Medi ac mae Baby Brave a Worldcub i chwarae yng ngŵyl ‘BreakOut West’ yng Nghanada fis Hydref.
Cyhoeddwyd yn ddiweddaraf hefyd bod 9Bach i berfformio yng ngŵyl gerddoriaeth ryngwladol ‘LUCfest’ yn Tainan, Taiwan rhwng 8 – 10 Tachwedd.
Yn ogystal ag Adwaith, bydd grŵp arall Cymreig sy’n cael tipyn o sylw ar hyn o bryd, Buzzard Buzzard Buzzard, hefyd yn teithio i Ganada i chwarae yn M for Montreal.