Bydd Adwaith yn cefnogi’r grŵp enwog The Jesus and Mary Chain yng ngwersyll Butlin’s o bobman ym mis Ionawr 2020.
Ond na phoener, dydy’r genod ddim wedi gwerthu allan a phenderfynu ymuno â chriw y cotiau coch enwog i adlonni’r torfeydd, ond yn hytrach byddan nhw’n perfformio yng ngŵyl ddifyr Rockaway Beach.
Dyma slot cefnogi cyffrous arall i’r triawd o Gaerfyrddin yn dilyn teithiau diweddar gyda Gwenno a The Joy Formidable.
Mae Rockaway Beach yn ŵyl boblogaidd sy’n cael ei chynnal yng ngwersyll enwog Butlin’s yn Bognor Regis am y bumed gwaith fis Ionawr nesaf.
Bydd yr ŵyl yn cychwyn ar 10 Ionawr, ac mae grŵp Cymreig arall ar y lein-yp, sef Melys.