Albwm cyntaf Adwaith, Melyn, sydd wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.
Cyhoeddwyd y newyddion mewn seremoni wobrwyo yn The Coal Exchange, yng Nghaerdydd neithiwr (Mercher 27 Tachwedd).
Panel o arbenigwyr y diwydiant sy’n gyfrifol am ddewis yr enillydd o’r rhestr fer o 12 albwm a gyhoeddwyd fis yn ôl.
Roedd detholiad da o albyms Cymraeg ar y rhestr eleni, gyda 5 o’r 12 yn recordiau cwbl Gymraeg neu ddwy-ieithog sef Carwyn Ellis & Rio 18, Lleuwen, Mr, VRï, Adwaith a HMS Morris. Roedd un arall o’r recordiau gan Accü, hefyd yn cynnwys un trac Cymraeg
Penderfynodd y panel eleni mai albwm y triawd o Gaerfyrddin oedd yn haeddu’r wobr uchel ei pharch.
Wythnos gofiadwy
Mae’r wobr yn coronni blwyddyn gofiadwy i Adwaith, ac yn wir wythnos fawr i’r band wrth iddynt berfformio yng ngŵyl M ym Montreal yng Nghanada dros y penwythnos.
“Mae hyn mor wallgof!” meddai’r merched wrth dderbyn yr wobr.
“Diolch i bawb a brynodd yr albwm, a phawb sydd wedi ein helpu a’n cefnogi”
Huw Stephens ydy sylfaenydd y wobr sydd wedi’i hennill yn y gorffennol gan Boy Azooga (2018), The Gentle Good (2017), Meilyr Jones (2016), Gwenno (2015), Joanna Grusome (2014), Georgia Ruth (2013), Future of the Left (2012), Gruff Rhys (2011).
“Enillydd cyffrous a haeddiannol iawn o restr fer eithriadol” oedd ymateb y cyflwynydd Radio 1 i’r enillwyr.
“Mae Adwaith wedi cael effaith wirioneddol gyda’u cerddoriaeth bersonol, hardd sy’n cyfleu sut beth yw bod yn ifanc, benywaidd, rhwystredig a dryslyd yn y byd rydyn ni’n byw ynddo.”
Gwobrwyo’r gorffennol a’r dyfodol
Ar ôl cyflwyno’r wobr i Meic Stevens llynedd, dyfarnwyd Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig am yr eildro eleni gan ei chyflwyno i i Meredydd Evans a Phyllis Kinney.
Casglodd Arwel Rocet Jones y wobr ar ran y cwpwl, ar ôl i Merêd farw yn 2015.
Yn olaf, eleni, cyflwynodd trefnwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Wobr Triskel newydd, a roddwyd i dri artist y maen nhw’n credu sy’n cynnig dyfodol disglair i gerddoriaeth yng Nghymru.
Rosehip Teahouse, Los Blancos a Hana2k oedd y tri i dderbyn y wobr yma.
Gyda chefnogaeth Help Musicians UK, bydd y tri artist yn derbyn pecyn cymorth diwydiant i helpu i roi hwb i’w gyrfaoedd. Bydd hyn yn cynnwys dyfarniad datblygiad creadigol o £500, mynediad am ddim i Gynllun Iechyd Clyw Cerddorion (MHHS) a dwy awr o gynllunio busnes.
I’ch atgoffa, dyma’r 12 albwm oedd ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni:
- Accü - Echo The Red
- audiobooks – Now! (in a minute)
- Carwyn Ellis – Joia!
- Cate Le Bon – Reward
- Deyah – Lover Loner
- Estrons – You Say I’m Too Much I Say You’re Not Enough
- HMS Morris – Inspirational Talks,
- Lleuwen – Gwn Glân Beibl Budr
- Lucas J Rowe – Touchy Love
- Mr – Oesoedd
- Adwaith – Melyn
- VRï – Tŷ ein Tadau
Llun: Adwaith ar ôl derbyn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig (Llun gan Joe Singh)