Mae Adwaith wedi rhyddhau eu sengl ddwbl ddiweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 6 Medi.
‘Hey! / Wine Time’ ydy enw cynnyrch diweddaraf y triawd o Gaerfyrddin, ac mae’r caneuon yn cael eu disgrifio fel ffrwydrad lliwgar a gwych.
Mae’r grŵp i’w gweld yn mynd o nerth i nerth ac yn denu sylw cyson gan flogiau cerddoriaeth amlwg.
Cafodd ‘Hey!’ ymateb cadarnhaol iawn yn ddiweddar gan flogiau amlwg fel ‘Louder than War’ a ddwedodd “Mae ‘Hey!’ yn dystiolaeth pellach nad oes ffiniau i angerdd a chreadigrwydd Adwaith.”
Mae ‘Hey!’ yn drac sy’n trafod anallu arweinwyr byd i daclo a threchu’r argyfwng hinsawdd, tra bod ‘Wine Time’ yn trafod materion mwy personol.
“Mae ‘Wine Time’ yn gân am gwympo mewn cariad â pherson hunan-ddinistriol iawn a sylweddoli na allwch chi achub person os nad ydyn nhw’n barod i achub eu hunain” meddai prif leisydd Adwaith Hollie Singer.
Mae’r fideos ar gyfer y ddau drac hefyd wedi eu cyhoeddi ar wefan gerddoriaeth ‘God is the TV’.
Wythnos diwethaf hefyd roedd Adwaith ar daith fer gyda Mellt a Papur Wal gan ymweld â Glasgow, Manceinion a Llundain.