Agor pleidlais Gwobrau’r Selar 2019

Mae pleidlais Gwobrau’r Selar nawr ar agor!

Rydach chi, darllenwyr cylchgrawn Y Selar a phorwyr y wefan, wedi gyrru eich enwebiadau, mae ein panel wedi pleidleisio dros bwy sydd ar y rhestrau hir, a nawr mae’r dewis terfynol nôl yn eich dwylo chi!

Mae’r bleidlais ar agor nes eiliad olaf y flwyddyn – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn pleidleisio cyn hanner nos, ar nos Calan.

Gallwch bleidleisio nawr ar ein ffurflen bleidlais Gwobrau’r Selar arbennig gan ddefnyddio’ch cyfrif Facebook.

Os nad oes gennych gyfrif Facebook, yna na phoener, rydym wedi cyhoeddi’r rhestrau hir yn llawn, ynghyd â gwybodaeth am ddull amgen o fwrw’ch pleidlais.

Yn ôl yr arfer, mae modd i chi bleidleisio dros 12 o’r categorïau, gydag enillydd un categori arall, sef y Wobr Cyfraniad Arbennig, yn cael ei ddewis gan dîm golygyddol Y Selar.

Penwythnos Gwobrau’r Selar

Ar ôl i’r bleidlais gau, byddwn yn cyhoeddi rhestrau byr wrth arwain at benwythnos Gwobrau’r Selar.

Rydym wedi cyhoeddi mai dyddiad y Gwobrau y tro yma fydd nos Wener 14 a nos Sadwrn 15 Chwefror, gyda dwy noson o gerddoriaeth wych yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

Mae modd i chi archebu tocyn nawr, gyda’r nifer tocynnau wedi’i gyfyngu i ddim ond 600 eleni. Gyda dros 1000 o bobl yn dod i’r digwyddiad bob blwyddyn, y cyngor felly ydy i brynu’n gynnar rhag cael eich siomi.

Rhaid bod yn 16 oed neu hŷn i ddod i’r digwyddiad.

Mae mwy o wybodaeth am y broses o ddewis enillwyr Gwobrau’r Selar yn ein canllawiau.