Ail gân gan Alffa yn croesi miliwn ffrwd Spotify

Mae’r grŵp sy’n gyfrifol am y gân Gymraeg gyntaf i’w ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify, bellach yn gallu hawlio perchnogaeth ar ddwy gân sydd wedi cyflawni’r gamp.

Dros y penwythnos cyhoeddodd y ddeuawd o Lanrug, Alffa, bod eu sengl ddiweddaraf, ‘Pla’, wedi’i ffrydio dros filiwn o weithiau ar y prif lwyfan ffrydio digidol.

Ddechrau mis Rhagfyr cyhoeddwyd y newyddion mawr fod sengl diwethaf y grŵp, ‘Gwenwyn’, wedi’i ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify – y trac Cymraeg cyntaf i gyrraedd y ffigwr hwnnw. Cafwyd sylw eang i’r stori, gan gynnwys mewn nifer o gyhoeddiadau mawr Prydeinig.

Mae ‘Gwenwyn’ bellach yn agosáu at gael ei ffrydio 3,000,000 o weithiau. I nodi’r gamp, cyflwynwyd gwobr arbennig ‘Miliwn Ffrwd’ i Alffa yn ystod Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror eleni.

Rhyddhawyd ‘Pla’ ar 15 Chwefror ac mae’r newyddion fod y trac wedi cyrraedd y ffigwr o filiwn ffrwd mewn dim ond ychydig fisoedd yn gadarnhad bod sŵn cerddoriaeth Alffa yn llwyddo i daro deuddeg gyda chynulleidfa eang.

Dim amdani ond comisiynu gwobr arall i’r hogia felly nagoes!

Dyma Alffa’n chwarae ‘Pla’ yn fyw ar lwyfan Gwobrau’r Selar ar ddiwrnod rhyddhau’r sengl: