Mae trydydd albwm stiwdio Super Furry Animals, Guerilla, wedi’i ail-ryddhau wrth i’r grŵp Cymreig ddathlu ugain mlynedd ers rhyddhau’r casgliad yn wreiddiol ym 1999.
Mae’r albwm wedi’i ail-fastro o’r tapiau gwreiddiol, ac ar gael i’w rag-archebu ar wefan swyddogol y Super Furrys nawr.
Mae llwyth o nwyddau eraill sy’n gysylltiedig â’r albwm ar gael i’w archebu hefyd.
Rydan ni’n arbennig o hoff o’r fersiwn feinyl dwbl, gatefold sydd yn y llun uchod. Mmmm, feinyl.
Ail-rhyddhad Guerrilla i ddathlu ei ugain-mlwyddiant. Wedi'w ail-fastro o'r tapiau gwreiddiol. Ar gael i'w rhag-archebu rwan: https://t.co/Dw8ZUkKgEO
The 20th anniversary edition of Guerrilla. Remastered from the original tapes available to pre-order now: https://t.co/Dw8ZUkKgEO pic.twitter.com/QXHzKGiCSm
— super furry animals (@superfurry) September 10, 2019