Al, Bran a Michael ar restr fer Seren y Sin

Trio o unigolion sy’n gweithio’n galed tu ôl i’r llenni sydd wedi cyrraedd rhestr fer categori gwobr newydd ‘Seren y Sin’ Gwobrau’r Selar, a noddir gan Ochr 1.

Bwriad y categori newydd ydy rhoi cyfle i enwebu mwy neu lai unrhyw un sy’n gwneud cyfraniad pwysig i’r diwydiant cerddoriaeeth gyfoes Gymraeg, ond sydd efallai ddim yn gymwys ar gyfer yr un o gategoriau eraill y Gwobrau.

Wrth gyhoeddi manylion y wobr newydd, fe nododd Y Selar fod Seren y Sin yn gyfle i enwebu pobl oedd efallai’n gwneud eu gwaith yn ddistaw yn y cefndir, ac mae’r tri sydd wedi cyrraedd y rhestr yn gwneud hynny mewn amryw ffyrdd.

Mae Aled Hughes yn gyfarwydd fel basydd Cowbois Rhos Botwnnog a band Alys Williams, sydd bellach yn dwyn yr enw Blodau Papur. Ond mae hefyd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr mewn sawl ffordd arall – yn reolwr label Sbrigyn-Ymborth ac yn gynhyrchydd uchel ei barch.

Mae Branwen ‘Sbrings’ Williams hefyd yn gerddor – yn aelod o Siddi gyda’i brawd Osian, yn perfformio’n achlysurol gyda Candelas a fel Aled yn aelod o Blodau Papur gydag Alys Williams. Mae cyfraniad Branwen i’r diwydiant yn llawer ehangach na hynny hefyd – yn un o reolwyr label I KA CHING, a hefyd yn trefnu a hyrwyddo gigs rheolaidd yn ardal Y Bala a thu hwnt.

Y trydydd enw ar y rhestr ydy Michael Aaron Hughes. Mae Michael yn un o gyflwynwyr radio Ysbyty Gwynedd, ac yn cyflwyno rhaglen gyda’i gyfaill Aaron Plemming. Mae hefyd yn adolygu cerddoriaeth i gylchlythyr siop Palas Print, ac yn gefnogwr brwd i gerddoriaeth Gymraeg ers blynyddoedd.

Bydd enw enillydd y wobr yn cael ei gyflwyno yng Ngwobrau’r Selar ar benwythnos 15-16 Chwefror.