Al Lewis yn cyd-weithio a cherddor o Wlad y Basg

Mae Al Lewis wedi cyd-weithio â’r cerddor o Wlad y Basg, Gizmo Varillas, i ryddhau fersiwn Gymraeg a Saesneg o gân Sbaenaidd.

‘Cysgod o Gariad’ ydy enw’r sengl newydd sydd ar gael ar lwyfannau digidol erbyn hyn.

Treuliodd Gizmo ran o’i blentyndod yng Nghaerdydd, ac fe gysylltodd ag Al i holi a fyddai ganddo ddiddordeb mewn ysgrifennu geiriau Cymraeg ar gyfer ei sengl ddiweddaraf, ‘Danza de Sombras’.

Dyma’r cynnyrch terfynol: