Bydd y grŵp hip-hop o Gaernarfom, 3 Hwr Doeth, yn rhyddhau eu halbwm newydd ar 13 Rhagfyr.
‘Hip Hip Hwre’ ydy enw ail albwm y grŵp sy’n rhannu nifer o aelodau gyda Pasta Hull.
Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf dan yr enw ‘Pasta Hull Presents…3 Hwr Doeth’ yn hollol ddi-rybudd ddwy flynedd yn ôl ar ddiwrnod Nadolig 2017.
Ers hynny maen nhw wedi mynd ymlaen i berfformio mewn nifer o sioeau cofiadwy, sydd bron yn ddi-ffael yn llawn dop.
Recordiau Noddfa sy’n rhyddhau’r albwm newydd ac yn ôl y label mae’r casgliad yn gymysg newydd o ganeuon bygythiol, gwleidyddol a hyd yn oed rhywiol, gyda dychweliad telynygol y rapwyr Brochwel Ysgithrog, Jac Da Trippa, BOI MA ac yr Arch Hwch.
Mae’r record ddiweddaraf hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan rapwyr newydd fel DJ Dilys, Basdich, Dr Slingdick, Griff Lynch a mwy.
Gan dargedu’r heddlu, y cyfryngau cymdeithasol, mamau-gu, faniau melyn a biji-bo’s, does neb yn ddiogel rhag y grŵp crafog. Mae’r albwm yn un sylweddol, gyda 18 o draciau i gyd.
Un o gigs cofiadwy’r band dros y flwyddyn a fu oedd hwnnw yng Ngŵyl Sŵn ym mis Hydref, a byddant yn dychwelyd i Glwb Ifor Bach ar gyfer lansiad yr albwm newydd ar 6 Rhagfyr. Bydd Kim Hon a Dienw yn cefnogi.
Dyma fideo ‘Slingdick Droppin’ The Bassline’ sydd ar yr albwm: