Albwm Bitw ar dâp melyn

Mae albwm cyntaf hunandeitlog Bitw bellach ar gael ar fformat casét, yn ogystal ag yn ddigidol ac ar CD.

Bitw ydy prosiect cerddorol y cerddor amryddawn Gruff ab Arwel, fu’n aelod o Eitha Tal Ffranco, a sy’n dal i fod yn aelod o’r grŵp syrff Y Niwl.

Rhyddhawyd yr albwm yn ddigidol ar 14 Mehefin ar safle Bandcamp Bitw, gyda chopïau CD ar gael i’w prynu yr un pryd.

Mae nifer cyfyngedig o gopïau’r albwm hefyd wedi bod ar gael ar feinyl ‘label gwyn’ trwy’r label Joyful Noise Records. Mae’r copïau feinyl bellach wedi eu gwerthu i gyd, ond bydd y newyddion am y fersiwn casét wrth ffodd ffans Bitw.

Nifer cyfyngedig o gopïau o’r fersiwn casét sydd ar gael a hynny ar dâp lliw melyn gyda blwch ‘croesfocs hynod’ (cross-folding box) i ddefnyddio disgrifiad yr artist.

Bydd Bitw yn mynd ar daith fer gydag Ynys a SYBS ym mis Hydref gan ymweld â dinasoedd Manceinion, Llundain a Glasgow.