Albwm cyntaf Tegid Rhys allan fis Chwefror

Bydd y cerddor gwerin o Lŷn, Tegid Rhys, yn rhyddhau ei albwm cyntaf ar 15 Chwefror.

Enw ei record hir gyntaf ydy Pam Fod y Môr Dal Yna?, ac fe fydd yn cael ei rhyddau ar label Recordiau Madryn.

I gyd-fynd â’r albwm, bydd Tegid Rhys hefyd yn rhyddhau’r trac ‘Terfysg Haf fel sengl gyntaf a phrif drac yr albwm.

Cafodd Pam Fod y Môr Dal Yna? ei gynhyrchu a’i chymysgu gan Tegid Rhys ac Aled Hughes, sydd wedi gweithio gyda Tegid ar ei senglau blaenorol.

Mae Aled hefyd yn chwarae amryw o offerynnau ar yr albwm ac y cerddorion eraill sydd wedi cyfrannu ydy ei frawd, Dafydd Hughes (dryms), Euron Jones (gitâr bedal ddur) a Heledd Haf Williams (llais).

Adlewyrchu sŵn Tegid

Recordiwyd yr albwm dros gyfnod o ddwy flynedd mewn stiwdio’s amrywiol gan gynnwys Stiwdio Drwm, Llanllyfni, a Stiwdio Carneddi, Bethesda. Bu Tegid hefyd yn recordio’n helaeth yn ei stiwdio ei hun.

Yn ôl Tegid, roedd ‘Terfysg Haf’ yn drac amlwg i’w rhyddhau fel prif sengl y record newydd.

“Hon oedd un o’r caneuon cyntaf yr oedd Aled am ei recordio pan wnes i gysylltu ag o i weithio ar yr albwm” meddai Tegid am y sengl,‘Terfysg Haf’.

“I ddeud y gwir, dw i’n siŵr mai ‘Terfysg Haf’ oedd y gân gyntaf i Aled a finna recordio ar gyfer Pam Fod y Môr Dal Yna? Mae hi wedi troi allan yn union fel oeddwn wedi’i obeithio!”

Mae’r albwm yn gasgliad o ganeuon sy’n adlewyrchu cerddoriaeth y mae Tegid Rhys yn ei greu ac ef ei hun fel artist. Mae ei gerddoriaeth yn gymysgedd o acwstig traddodiadol, amgen a gwerin seicedelig gyda naws electronig atmosfferig, sy’n creu profiad cerddorol awyrol, sy’n plethu gyda llais bregus ond angerddol.

Yn frodor o Lŷn, mae’r bobl, y tir, y môr, a diwylliant yr ardal yn amlwg trwy ei ganeuon cain a thyner sy’n swyno’r gwrandäwr i’r ymdeimlad o agosatrwydd.

Bydd llawer ohonoch yn cofio i Tegid ryddhau sengl sy’n rhannu enw’r albwm llynedd…dyma ‘Pam Fod y Môr Dal Yna?’: