Bydd albwm newydd partneriaeth cerddorol y gantores electronig, Eädyth, a’r cynhyrchydd Shamoniks yn cael ei ryddhau ar 2 Awst.
Keiri ydy enw record hir Eädyth x Shamoniks a bydd yn cael ei ryddhau ar label Recordiau UDISHIDO.
Mae’r casgliad yn cyfuno syniadau’r cynhyrchydd Shamoniks, sef Sam Humphreys sy’n aelod o Calan, Pendevig, NoGood Boyo, a llais arbennig Eädyth Crawford.
Bydd gig lawnsio swyddogol Keiri yn cael ei gynnal yn Moon Club, Caerdydd ar 1 Awst.
Fel tamaid i aros pryd, bydd ail sengl y ddeuawd, ‘I Fewn / Inside’, yn cael ei ryddhau ddydd Gwener nesaf, 12 Gorffennaf, ac i gyd-fynd â’r sengl bydd cyfle cyntaf i weld fideo newydd ar gyfer y trac yma ar wefan Y Selar fore dydd Gwener!