Albwm ‘Ewropa’ i’w ryddhau’n swyddogol

Mae’r cerddor electroneg arbrofol, Ffrancon, wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf ‘Ewropa’ ar y prif lwyfannau digidol.

Roedd y cerddor, Geraint Ffrancon, eisoes wedi rhyddhau’r casgliad ar ei safle Bancamp ers rhai wythnosau, ond bellach mae ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho ar Spotify a’r llwyfannau digidol amlwg eraill hefyd.

‘Ewropa’ ydy enw’r casgliad newydd, ac mae’n cynnwys 27  draciau – un ar gyfer pob gwlad fydd yn parhau’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd unwaith bydd Prydain wedi gadael.

Mae’n gysyniad syml, sydd i’w ddehongli orau gan y gwrandäwr. Mae rhai o’r traciau’n swnio’n gadarnhaol, eraill yn felancolaidd, ac eraill yn gwyro rhwng gobaith ac anobaith o fewn ychydig funudau.

Colled a thristwch

Mae Ffrancon wedi treulio ei fywyd cyfan yn teithio i wahanol lefydd yn Ewrop, ac yn teimlo cysylltiad ddwfn ag Ewrop a’r cysyniad o fod yn Ewropeaidd. Mae wedi byw yn Sweden a’r Alban, wedi bod ar sawl gwyliau hapus yn Ffrainc a Sbaen, ac wedi bod ag obsesiwn â ffilmiau arthouse Ewropeaidd a’r sin feicio ar y cyfandir.

Mae’n debyg mai ei hoff wlad yn y byd yw Gwlad Belg – cwrw, Tintin, pêl-droed, tecno, beiciau, Jacques Brel…anodd dadlau gyda hynny!

“Pan ddigwyddodd y bleidlais, fel llawer o bobl creadigol, teimlais yn  gryf bod angen i mi ymateb i’r achlysur hanesyddol hwn” meddai Geraint.

“Nid dicter na’ chasineb oedd y prif emosiwn a deimlais, ond teimlad o golled a thristwch dwys iawn – bod hanes yn symud ymlaen ac yn fy ngadael i ar ôl. Mae ’na deimlad hiraethus iawn yn perthyn i’r caneuon.

“Er gwaethaf yr holl ofid, dwi hefyd yn gweld ‘Ewropa’ fel albwm eithaf positif a dyrchafol. Yn dweud ‘ffwcia ti’ i bawb sydd eisiau gadael Ewrop,  oherwydd allwn ni fyth adael Ewrop – ry’n ni’n rhan ohono ac fyddwn ni felly am byth (ac erbyn hyn, wedi’i gysylltu’n ffisegol drwy dwnnel y sianel).

“Mae gweddill Ewrop yn haws cyrraedd nag erioed o’r blaen. Mae dylanwadau Ewropeaidd ym mhobman. Byddwn ni’n rhan o Ewrop am byth.”

Enigma electro

Gan wisgo amryw fygydau, mae Geraint Ffrancon yn gyfarwydd i ni fel cerddor sy’n cynhyrchu cerddoriaeth electroneg ac amgen ers nifer o flynyddoedd bellach.

Bu’n cyhoeddi cerddoriaeth ers dechrau’r mileniwm dan nifer o enwau gwahanol – Stabmaster Vinyl, Blodyn Tatws, ap Duw, Seindorff a Machynlleth Sound Machine i enw dim ond rhai.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi canolbwyntio ar gynhyrchu cerddoriaeth dan yr enw Ffrancon gyda sawl casgliad o ganeuon yn ymddangos ar ei safle Bandcamp.

Mae’r casgliad newydd ar gael yn ddigidol yn unig ar hyn o bryd.

Dyma ‘Deutschland’ o’r casgliad newydd: