Albwm Georgia Ruth ar y ffordd

Mae Georgia Ruth wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau ei halbwm newydd ym mis Mawrth ar label Bubblewrap Collective.

Daeth cyhoeddiad beth amser yn ôl fod Georgia wedi ymuno â label Bubblewrap, sydd wedi bod yn gyfrifol am ryddhau cerddoriaeth diweddar The Gentle Good a HMS Morris ymysg eraill.

Roeddem wedi cael ar ddeall ei bod hefyd yn gweithio ar albwm newydd a gwelwyd y sengl gyntaf o’r albwm hwnnw’n gweld golau dydd ar ddechrau mis Rhagfyr, sef ‘Close for Comfort’.

Mai

‘Mai’ fydd enw trydydd albwm y gantores o Aberystwyth, ac mae’r casgliad yn mynd i’r afael a’i gwreiddiau.

Yn dilyn genedigaeth ei phlentyn cyntaf, mae Georgia a’i theulu wedi symud yn ôl i’r dref lle’i magwyd hi – Aberystwyth.

Dyma gasgliad o ganeuon a ysgrifennwyd o grombil tŷ, tra bod plentyn bach yn cysgu.

Myfyrdod ydi ‘Mai’ ar geisio darganfod gobaith yn y tymhorau, mewn byd lle mae sicrwydd Gwanwyn yn teimlo’n fwyfwy bregus. A’r ymgais i gofleidio gwylltni, a chariad.

Mae’r sengl gyntaf, ‘Close for Comfort’, a ryddhawyd ar 6 Rhagfyr yn gân am eistedd mewn ystafell sydd wedi bod yn gyfarwydd iawn i chi ers blynyddoedd ond teimlo rywsut, fod popeth wedi newid.

Goleuni a chariad

“Bues i’n darllen llwyth o nofelau Murakami pan ysgrifennais i’r gân yma” meddai Georgia.

“….ac roedd ei gymeriadau o hyd yn sownd tu mewn i dyllau dwfn yn y ddaear; wedi’u cymryd o fywyd bob dydd ond am ryw reswm yn teimlo’r angen i aros lawr yn y twll tywyll.

“Arhosodd y darlun yno yn fy meddwl am amser hir! Rwy’n cymryd bod y gân am y daith o ddod yn ôl i oleuni a chariad.”

Recordiwyd yr albwm yn Neuadd Joseph Parry yn Aberystwyth dros gyfnod o wythnos yn ystod gwanwyn 2019.

Wedi’i enwi ar ôl y cyfansoddwr enwog, roedd yr ystafell yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer cyngherddau siambr trwy gydol yr ugeinfed ganrif, ac yn cynnig golygfa o’r haul yn machlud dros y castell wrth i gerddorion weithio.

Cynhyrchwyd yr albwm ar y cyd ag Iwan Morgan (sydd hefyd wedi gweithio gyda Meilyr Jones, Cate Le Bon, Richard James) ac ef hefyd sy’n gyfrifol am beiriannu, cymysgu a mastro’r cyfan.

Mae’r albwm yn dangos doniau criw arbennig o gerddorion sy’n cynnwys Iwan a Dafydd Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Stephen Black (Sweet Baboo), Ailsa Mair Hughes, Angharad Davies, Rhodri Brooks a Laura J Martin

Bydd Mai ar gael yn ddigidol, ar CD, ac ar feinyl cyfyngedig ar 20 Mawrth  2020 trwy Bubblewrap Collective. Mae modd rhag archebu’r albwm nawr, gan gynnwys y fersiwn feinyl sydd â nifer cyfyngedig o ddim ond 100 o gopïau.

Mae manylion taith hyrwyddo’r albwm hefyd wedi eu cyhoeddi, gyda saith o gigs rhwng diwedd Mawrth a dechrau Mai 2020.

Dyma restr lawn y dyddiadau:

20 Mawrth – Nauadd Goffa Casnewydd

22 Mawrth – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

27 Mawrth – Live Rooms, Caer

28 Mawrth – Pontio, Bangor

29 Mawrth – The Hive, Amwythig

3 Ebrill – The Gate, Caerdydd

9 Mai – Tŷ Pawb, Wrecsam