Mae fersiwn weledol gyflawn o ganeuon yr albwm Pang! gan Gruff Rhys bellach wedi’i ryddhau ar-lein ar safle YouTube y cerddor.
Rhyddhawyd yr albwm ym mis Medi eleni. Dyma albwm gyfan gwbl Gymraeg prif ganwr y Super Furry Animals ers ei albwm unigol cyntaf, Yr Atal Genhedlaeth, a ryddhawyd yn 2005.
Mae’r cerddor wedi bod yn cynnal taith fer ar gyfer hyrwyddo’r albwm mewn lleoliadau Cymreig dros yr wythnosau diwethaf, gyda’r olaf yng Nghrughywel nos Wener diwethaf (20 Rhagfyr).
Roedd y ffilmiau i gyd-fynd â’r caneuon yn cael eu defnyddio yn ystod y gigs hynny, a nawr mae’r cyfan ar gael i’w gwylio ar-lein.
Trywydd tebyg
Mark James sy’n gyfrifol am gyfarwyddo’r clipiau fideo i gyd.
“Mi wnes i ddilyn trywydd tebyg i’r hyn mae Gruff a Muzi wedi gwneud wrth gynhyrchu’r albwm wrth ymdrin â’r ffilm” meddai James.
“Creu cyfres o lŵps, i gyd yn troi o gwmpas cynllun albwm PANG!. Ro’n i eisoes wedi cynhyrchu’r fideo ar gyfer sengl PANG!, felly mi wnes i a Gruff benderfynu dilyn i fyny ar hynny.”
“Gan ein bod ni wedi gweithio ar y cyd ar waith celf yr albwm, fe wnaethon ni drafod sut y gallen ni ddatblygu siapiau PANG! yn brops llwyfan ac ati. Ond ar ôl creu’r fideo gwreiddiol fe wnaethon ni ystyried sut allai weithio ar y llwyfan, a’r syniad o’r logo PANG! yn cylchdroi’n gyson, a time-lapse 32 munud o’r awyr rhwng gwawrio a machlud.”
“Wrth ddod at y broses ffilmio, fe wnes i ddarganfod fod naratif bras yn cysylltu’r traciau a bod modd i ni weithio gyda hynny. Rydyn ni’n teithio trwy dirluniau abstract rhwng gwawr a machlud ac allan i’r gofod.”
“Fe gymrodd dipyn o amser o roi’r cyfan at ei gilydd, torri i’r bît a chreu lŵps. Mae’n bartner gweledol i’r albwm.”