Albwm Gymraeg ar y ffordd gan Gruff Rhys

Mae Gruff Rhys wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau ei albwm diweddaraf ‘Pang!’ ar label recordiau Rough Trade ar 13 Medi eleni.

A’r newyddion mwy cyffrous fyth ydy mai albwm gyfan gwbl Gymraeg fydd ei gasgliad newydd – ei record hir gyfan gwbl Gymraeg gyntaf ers Yr Atal Genhedlaeth a ryddhawyd yn 2005.

Datblygwyd Pang! yn dra annisgwyl dros tua deunaw mis. Albwm unigol o ganeuon gan Gruff, wedi’i gynhyrchu a chymysgu gan yr artist electroneg o Dde Affrica, Muzi. Mae modd rhag archebu’r albwm a ffrydio dwy o’r caneuon, sef Pang!’ a ‘Bae Bae Bae’, nawr ar wefan y cerddor.

Recordiwyd y gân ‘Pang!’ yng Nghaerdydd ac fe’i cymysgwyd gan y cynhyrchydd Muzi yng Nghaerdydd a Johannesburg, De Affrica. Mae’r drymiau ar gyfer y trac yn cael eu chwarae gan Kliph Scurlock, a’r offerynnau prês gan Gavin Fitzjohn. Y peiriannydd Kris Jenkins sydd ar y ffliwt ac offer taro arall.

Yn ôl Gruff mae ‘Pang!’ yn gân Gymraeg gyda theitl Saesneg. Datblygodd o fod yn rîl werinol yn ô fuan i mewn i gân ‘rhestr’, sy’n rhestru gwahanol resymau dros y pangiau cyfoes mewn golwg; newyn, gofid, trydar, poen, dylunio gwael ac ati.

Gall defnyddio’r gair Saesneg pang mewn trac Cymraeg ymddangos yn rhyfedd ar un llaw – ond gyda’r defnydd o eiriau Eingl-Americanaidd ynfyd megis Awsome (Ôsym) ar gynnydd yn y Gymraeg mae’n debyg fod y defnydd o’r gair anarferol Pang yn gymharol ddi-niwed ac y gallasai pethau fod wedi bod yn llawer gwaeth.

“Ta waeth” ychwanega Gruff, “efallai tra’n palu celwydd ‘Yn y Mabinogi mae Pang hefyd yn hen air Cymraeg am wyrddni llachar arallfydol.”

Bydd y casgliad llawn yn cynnwys naw o ganeuon.

Yn ogystal â ffrydio’r trac ‘Pang!’ ar wefan Gruff Rhys, mae modd gwylio fideo ar gyfer y gân ar ei sianel YouTube..neu isod!