Albwm Los Blancos ar y ffordd

Mae Los Blancos wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Dilyn Iesu Grist’, ddydd Gwener diwethaf 23 Awst, gan gyhoeddi hefyd bod albwm hefyd ar y ffordd ganddynt ddiwedd mis Medi.

Sbwriel Gwyn ydy enw albwm cyntaf y grŵp sydd â’u gwreiddiau yn Sir Gâr, a bydd yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 27 Medi.

Bydd gig lansio ar gyfer yr albwm ar yr un diwrnod yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.

Darlun o fywyd pobl ifanc

Heb os mae mae Los Blancos cael eu gweld fel un o fandiau mwyaf addawol a chyffrous Cymru ers cwpl o flynyddoedd bellach felly bydd croeso mawr i’w halbwm cyntaf .

Unwaith eto, fel gyda’u senglau blaenorol, mae’r grŵp wedi gweithio gyda’r cynhyrchydd amlwg Kris Jenkins wrth recordio’r albwm – mae Jenkins yn gyfarwydd am ei waith gyda’r Super Furry Animals, Cate Le Bon, Gruff Rhys a H. Hawkline ymysg eraill.

Recordiau Libertino sy’n rhyddhau’r casgliad newydd, ac yn ôl y label mae’r albwm yn onest, ac yn ddarlun cywrain o fywyd pobl ifanc. Ar un llaw cawn ganeuon fuzzy, ifanc a chariadus ond ar y llaw arall cawn ganeuon bregus a diniwed.

Wrth wrando ar yr albwm, mae’n rhwydd gweld rhai o ddylanwadau mawr Los Blancos – bandiau fel The Replacements, Lemonheads, Y Cyrff a The Velvet Underground.

Clywir angerdd a hwyl creu cerddoriaeth yn glir trwy’r albwm – wrth ddefnyddio’r cyfuniad perffaith o ddwy gitâr, bas, dryms a llais, mae gan Los Blancos y ddawn o droi cerddoriaeth ynysig mewn i gerddoriaeth byd eang.

Nid profocio crefydd

Mae’r sengl sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, ‘Dilyn Iesu Grist’, yn damaid i aros pryd nes rhyddhau’r record hir a dywed eu label eu bod yn ‘tynnu’r gwrandäwr i mewn gyda’u sŵn cathartig, prysur a hyfryd’.

“Mae’n gân am rethreg gwag a sut gall rhwbeth sy’n nonsens pur swnio’n ddwys ac ystyrlon” eglura Dewi Jones, basydd Los Blancos wrth drafod y sengl.

“Nid yw’n pryfocio crefydd, mae’n gallu cyfeirio at ddiwylliant poblogaidd neu wleidyddiaeth fel ‘brexit means brexit’ ayyb neu ddyfyniadau cringey ar gyfryngau cymdeithasol”.

Bydd Los Blancos yn perfformio mewn cyfres o gigs dros y hydref i hyrwyddo’r albwm newydd, dyma’r dyddiadau sydd wedi eu cadarnhau:

27/09/19 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
18/10/19 – Selar Bar, Aberteifi
01/11/19 – Noson 4 a 6 Caernarfon
2/11/19 – Tŷ Pawb, Wrecsam

A dyma ‘Dilyn Iesu Grist’: