Albwm newydd KEYS

Bydd y grŵp o Gaerdydd, KEYS, yn rhyddhau sengl ar 15 Tachwedd, cyn rhyddhau eu halbwm diweddaraf yr wythnos ganlynol ar 22 Tachwedd.

Enw’r albwm newydd ydy ‘Bring Me The Head of Jerry Garcia’, ac enw’r sengl gyntaf ydy ‘Bad Penny’.  Recordiau Libertino sy’n gyfrifol am ryddhau cynnyrch diweddaraf y band profiadol a phoblogaidd.

Yn ôl y label, nid yn unig fod yr albwm yn gasgliad o ganeuon gwych ond mae hefyd yn ddechreuad hyderus newydd i’r band. Mae’n albwm sy’n agor y llen ar haul braf, lewyrchus ar eich llygaid blinedig.

Cafodd yr albwm ei recordio dros ddau ddiwrnod yn Sefydliad Lles Glöwyr Resolven, ac mae hynny’n ôl y label er mwyn yn dal egni byw y KEYS. Mae’r albwm hefyd yn darganfod eu dawn o greu geirfa cerddorol newydd yn ôl Libertino.

Bydd y sengl newydd ‘Bad Penny’, sydd allan ar 5 Tachwedd, yn flas o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar yr albwm wythnos yn ddiweddarach.

Bydd y band yn lansio’r albwm newydd yn The Gate yng Nghaerdydd ar 19 Rhagfyr gyda DD Darillo, Kidsmoke a HMS Morris yn cefnogi.