Alffa’n cyfrannu arian lansiad i Meddwl.org

Hogia iawn ydy hogia Alffa, ac maen nhw wedi profi hynny unwaith eto trwy gyfrannu incwm gig lansio ei halbwm at achos da.

Cynhaliwyd lansiad swyddogol ‘Rhyddid o’r Cysgodion Gwenwynig’ yn Nhŷ Glyndŵr, Caernarfon ar nos Wener 29 Tachwedd, gan godi cyfanswm o £150.

A chwara teg iddyn nhw, Dion a Sion o’r grŵp wedi cyfrannu holl elw gig lansio e i wefan Meddwl.org.

Mae Meddwl.org yn wefan sy’n trafod iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n un o’r themau sy’n cael eu trafod ar Albwm cyntaf Alffa.

Bydd rhai yn cofio’r datganiad clir ynglŷn ag iselder ymysg dynion ifanc a wnaed gan Alffa, gyda chymorth Iwan Fôn, ar lwyfan Maes B yn Eisteddfod Llanrwst.