Tri artist unigol gwahanol iawn sydd wedi cyrraedd brig pleidlais categori ‘Artist Unigol Gorau’ Gwobrau’r Selar eleni.
Un peth sy’n sicr am y Welsh Whisperer ydy ei fod o wedi creu niche bach llwyddiannus iawn i’w hun.
Mae o’n ffitio ar bron a bod unrhyw lein-yp boed yn gig ysgol, dawns sioe amaethyddol, cynhadledd merched y wawr neu noson gomedi. Mae ei waith ar y cyd â Hywel Pitts ar gyfer eitemau Hansh hefyd wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac mae ei boblogrwydd yn glir – dim syndod ei weld ar y rhestr fer yma felly.
Yn aelod o rai o fandiau amlycaf Cymru dros y degawdau diwethaf – Beganifs, Big Leaves, Sibrydion a mwy – mae Mei Gwynedd yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth.
Roedd 2018 yn flwyddyn arwyddocaol iddo gan iddo fynd ati go iawn i sefydlu ei hun fel artist unigol, gan ryddhau ei albwm unigol cyntaf, Glas, ym mis Mehefin. Os nad oedd hynny’n ddigon, fe ryddhaodd sengl newydd o’r enw ‘Tafla’r Dis’ ym mis Tachwedd a bydd yr EP o’r un enw allan ddydd Gwener yma.
Ag yntau’n cyrraedd y rhestr fer yma am y tro cyntaf, bydd Mei hefyd yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar ar nos Sadwrn 16 Chwefror.
Y trydydd enw i gyrraedd y rhestr fer y tro hwn ydy enillydd y wobr yma llynedd, Alys Williams. Mae Alys wedi parhau i fynd o nerth i nerth yn ystod 2018 gan gigio’r rheolaidd a rhyddhau ei sengl gyntaf ar Recordiau Côsh ym mis Tachwedd. Cyhoeddodd Alys ddiwedd y flwyddyn fod enw newydd ar y prosiect oedd yn cael ei adnabod fel ‘Alys Williams a’r Band’, sef Blodau Papur, a rhyddhawyd sengl ddwbl ganddyn nhw ar ddydd Calan.
Bydd enw’r enillydd yn cael ei ddatgelu ar benwythnos Gwobrau’r Selar, 15-16 Chwefror, yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. Mae tocynnau’r Gwobrau ar werth nawr, ac yn gwerthu’n gyflym – prynwch yn fuan rhag cael eich siomi.