Mae sengl newydd Pys Melyn, ‘Anfarwoli’ allan heddiw, dydd Gwener 22 Chwefror.
Prosiect unigol sydd wedi datblygu i fod yn bumawd ydy Pys Melyn. Maen nhw’n creu cerddoriaeth sy’n cael ei ddisgrifio fel sŵn ffug-organig, seicadelig.
Bydd ‘Anfarwoli’ yn cael ei rhyddhau ar label annibynnol y band, sef Ski-Whiff Records ac roedd cyfle cyntaf i glywed y trac ar raglen Radio Cymru Huw Stephens nos Iau diwethaf.
Mae awgrym hefyd o fwy o gerddoriaeth ar y gweill gan Pys Melyn yn ystod 2019, ac addewid o ddyddiadau gigs byw yn fuan.
Am y tro, ciciwch nôl a mwynhau’r sengl newydd isod…