Atgyfodiad pellach Plant Duw

Mae awgrym gan ffryntman Plant Duw y gallwn edrych ymlaen at weld tipyn mwy gan y grŵp yn ystod 2019.

Ddydd Mawrth diwethaf, ar ddydd Calan, fe ryddhaodd Plant Duw eu sengl newydd ‘Craen ar y Lleuad’.

Bellach mae prif ganwr y grŵp, Conor Martin, wedi cyhoeddi darn blog yn egluro mwy am hanes y trac, gan hefyd roi ambell awgrym ynglŷn â chynlluniau’r grŵp o Fangor yn ystod y cyfnod nesaf.

Yn y blog, mae Conor yn egluro bod ‘Craen ar y Lleuad’ yn un o’i hoff dracia gan Plant Duw, os nad ei hoff drac o’r cyfan.

Mae’n egluro hefyd yr hanes ynglŷn â recordiad gwreiddiol y gân fel rhan o sesiwn ar gyfer rhaglen Huw Stephens ar Radio Cymru yn 2006. Doedd aelodau’r grŵp ddim yn gwbl hapus â’r fersiwn yma, felly dyma benderfynu ei recordio eto, a rhyddhau dair ar ddeg blynedd yn ddiweddarach!

A hithau wedi bod yn flwyddyn o atgyfodiad bach i Plant Duw yn 2018, mae awgrym yn y blog hefyd y gallwn ni ddisgwyl mwy ganddyn nhw yn 2019.

Dywed Conor mai un uchelgais personol sydd ganddo ydy i’w blant weld y grŵp yn perfformio yn ystod Eisteddfod Llanrwst ym mis Awst. Gobeithio y gwelwn ni hynny, a llawer mwy gan y plantos dyfeisgar yn ystod y flwyddyn.