Bandiau i dalu teyrnged i Mark a Paul yng Ngwobrau’r Selar

Bydd nos Wener Gwobrau’r Selar, 15 Chwefror, yn gyfle i dalu teyrnged go iawn i enillwyr ein gwobr Cyfraniad Arbennig eleni – Mark Roberts a Paul Jones.

Mae prif ddigwyddiad Gwobrau’r Selar wedi ei ymestyn dros ddwy noson eleni am y tro cyntaf, a bydd artistiaid lein-yp ardderchog gig y nos Wener i gyd yn talu teyrnged arbennig i’r ddeuawd sy’n gyn-aelodau o Y Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc a grwpiau eraill.

Fel teyrnged i’r ddau gerddor dylanwadol, bydd pob un o fandiau nos Wener – Mellt, Y Cledrau, HMS Morris, Alffa a Lewys – yn perfformio fersiwn eu hunain o un o glasuron Y Cyrff neu Catatonia.

Mae dal modd prynu tocynnau ar gyfer gig nos Wener ar hyn o bryd.

Agwedd a sŵn Y Cyrff yn ddylanwad

Un o fandiau prysura’ a mwyaf llwyddiannus 2018, Mellt, fydd yn cloi y gig nos Wener ac mae Y Cyrff yn benodol wedi bod yn ddylanwad mawr arnyn nhw fel grŵp.

“Yn bendant mae Y Cyrff wedi bod yn ddylanwad arnom ni fel band” meddai prif ganwr a gitarydd Mellt, Glyn James.

“Ry’n ni wedi bod yn gwneud cyfyrs o ganeuon Y Cyrff yn ein setiau byw ers sawl blwyddyn, ac mae agwedd a sŵn Y Cyrff wedi dylanwadu ar steil Mellt. Rydyn ni’n falch iawn bod Mark a Paul yn derbyn y wobr eleni, a bydd hi’n neis gallu talu teyrnged fach iddyn nhw ar nos Wener y Gwobrau.”

Sgwrs arbennig bnawn Gwener

Bydd Mark a Paul yn derbyn y wobr Cyfraniad Arbennig fel rhan o’r gig yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar y nos Wener, ond cyn hynny bydd Y Selar yn cynnal sgwrs arbennig gyda’r ddau yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 17:00.

Bydd y sgwrs yn gyfle i fwrw golwg nôl ar eu cyfnod gydag Y Cyrff, Catatonia a’u grwpiau eraill, ond hefyd yn gyfle i drafod yr hyn sydd ganddyn nhw ar y gweill ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol. O adnabod y ddau, bydd y sgwrs yn siŵr o gynnwys digon o hiwmor ffraeth a barn di-flewyn ar dafod!

Mae mynediad i’r sgwrs am ddim, ond bydd angen archebu tocyn i fod yn saff o’ch lle. Gellir gwneud hynny trwy swyddfa docynnau’r Llyfrgell Genedlaethol.

Mae y Llyfrgell Genedlaethol hefyd wedi paratoi arddangosfa o femorabilia bandiau Mark a Paul sydd i’w weld rhwng hyn a penwythnos y Gwobrau. Mae hyn yn cynnwys cyfle i wylio ffilm ddogfen ‘Cofia Fi’n Ddiolchgar’ a ddarlledwyr yn dilyn marwolaeth trist gitarydd Y Cyrff, Barry Cawley yn 2000.

Yn y cyfamser, mae Y Selar wedi agor pleidlais gyhoeddus i ddewis rhestr 10 Uchaf Caneuon grwpiau Mark a Paul – gellir pleidleisio dros eich ffefryn ar wefan Y Selar nawr.

Rydyn ni hefyd yn galw ar bobl i rannu lluniau a phosteri gigs Y Cyrff ar y cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnos nesaf gan ddefnyddio hashnod #caruYCyrff

Ydan ni angen esgus arall i roi tiwn gan Y Cyrff isod? Na…dyma fideo ar gyfer yr hyfryd ‘Seibiant’ gan Y Cyrff: