Bandicoot yn ryddhau sengl Gymraeg

Mae’r grŵp dwy-ieithog addawol ardal Abertawe, Bandicoot, wedi rhyddhau eu sengl Gymraeg gyntaf o’r enw ‘Glaw Ail Law’ heddiw, 19 Gorffennaf.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar bod y grŵp ifanc wedi ymuno â label Recordiau Bica, sef y label newydd sydd wedi bod yn gyfrifol am ryddhau caneuon y cynhyrchydd dawns electronig, FRMAND.

Band pedwar aelod ydy Bandicoot sef Rhys Underdown (llais, gitar, sax, keys), Bill Stillman (drymiau), Conor Mclaughlan (gitar) a Tom Emlyn (llais a bas). Maent yn dwyn dylanwadau gan fandiau fel Radiohead, Super Furry Animals a Talking Heads.

Mae’r grŵp wedi bod yn gwneud argraff ar lwyfannau Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent wedi derbyn nawdd gan gynllun Gorwelion y BBC tuag at recordio eu sengl Gymraeg gyntaf gyda’r cynhyrchydd Tom Rees.

Er yn fand ifanc, maent wedi bod yn hynod o brysur ar lwyfannau byw dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi perfformio mewn dros 200 o gigs gan gynnwys chwarae yng ngŵyl Ymylol Abertawe a Gŵyl Sŵn. Maent hefyd wedi teithio i nifer o ddinasoedd ledled y Deyrnas Unedig gan gefnogi bandiau fel VANT, Blaenavon, The Sherlocks, Spring Kin, Estrons, Wooze a llawer mwy

Rhyddhaodd y band sengl ddwbl ‘Being Erased / House of Fame’ yn Rhagfyr 2018, gan greu argraff fawr ar y cyflwynydd Radio Wales Adam Walton a ddywedodd”beth bynnag rwy’n chwarae eleni, ni fyddai’n chwarae unrhyw beth sy’n well na hynny”.

Dyma ‘Glaw Ail Law’: