Bitw – sengl ac albwm ar y ffordd

Newyddion cynnyrch newydd cyffrous o gyfeiriad label Klep Dim Trep, sef bod sengl newydd ac albwm cyntaf Bitw ar y ffordd dros y ddeufis nesaf.

Bitw ydy prosiect diweddaraf Gruff ab Arwel, oedd yn aelod craidd o’r grŵp Eitha Tal Ffranco ac sydd hefyd yn aelod o’r grŵp syrff o’r gogledd, Y Niwl.

‘Love is Happening!’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf iddo’i rhyddhau, a bydd yn cael ei chyhoeddi’n ddigidol ar 24 Mai. Ac mae’n ymddangos bod y sengl yn ragflas ar gyfer albwm cyntaf Bitw, sy’n rhannu enw’r artist, fydd yn dilyn ychydig wythnosau’n ddiweddarach ar 14 Mehefin.

Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i dair sengl flaenorol Bitw sydd wedi eu rhyddhau dros y deunaw mis diwethaf sef ‘Diolch am eich sylwadau, David’ a ryddhawyd ym mis Mawrth eleni, ‘Siom’ a ryddhawyd flwyddyn yn gynharach ym mis Mawrth 2018, a ‘Gad i mi Gribo Dy Wallt’ a ryddhawyd fel un o Senglau Sain yn Rhagfyr 2017.

“Dwi wedi bod yn ddigon lwcus i gael bywyd reit ddiflas diolch byth, ond dydi hynny ddim yn grêt ar gyfer sgwennu caneuon pop,” meddai Gruff ab Arwel.

Er hynny, does dim yn ddiflas am albwm cyntaf Bitw yn ôl yr hyn rydym yn ei glywed – yn hytrach mae’n llawn o ganeuon pop heintus, rhythmau hyfryd a melodïau cynnil.

Feinyl ‘label gwyn”

Y label mae Gruff yn ei reoli, Klep Dim Trep, fydd yn rhyddhau’r sengl a’r albwm, ond bydd fersiwn ar feinyl yn cael ei ryddhau gan label Joyful Noise hefyd fel rhan o’u cyfres ‘White Label’.

Mae’r gyfres yn gofyn i 12 o artistiaid amlwg ‘guradu’ cynnyrch y label trwy ddewis record i’w rhyddhau ar ffurf feinyl nifer cyfyngedig (500 copi) bob mis. Mae’r cerddor Cate Le Bon yn un o’r curadwyr eleni, ac wedi dewis Bitw ar gyfer y gyfres.

Recordiwyd yr albwm dros gyfnod o ddwy flynedd gan Gruff yn ei gartref yng Nghaernarfon.

“Nes i ddewis recordio’r albwm adref achos mod i rhy styfnig i dalu am stiwdio” meddai Gruff.

“Dwi ddim yn meindio bod ar ben fy hun yn gyffredinol, ond mae’n syniad da cal rhywun yna weithiau i atal pethau rhag mynd dros ben llestri. Felly nes i ffonio cwpwl o ffrindiau i ychwanegu chydig o chwaeth.”

Er ei agwedd gybyddlyd tuag at y broses recordio, mae cyfoeth o swyn cerddorol i’w glywed ar yr albwm. Roedd cyfle cyntaf i glywed y sengl bop-gariadus ar raglen Janice Long ar Radio Wales yn ddiweddar.

Am y tro, mwynhewch fideo ‘Diolch am Eich Sylwadau, David’: