Mae PYST wedi cyhoeddi mai Bitw, Ynys a SYBS fydd y tri band sy’n perfformio yn eu cyfres nesaf o gigs yn Ninasoedd Glasgow, Manceinion a Llundain.
Cyhoeddodd yr asiantaeth hyrwyddo yn ddiweddar fanylion eu prosiect newydd i drefnu teithiau byr sy’n ymweld â lleoliadau y Poetry Club yn Glasgow, Yes ym Manceinion a’r Victoria yn Dalston, Llundain.
Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn gweld PYST yn mynd â thri artist Cymraeg ar deithiau ym misoedd Medi, Hydref a Thachwedd eleni.
Cyhoeddwyd ym mis Mai y byddai Adwaith, Mellt a Papur Wal yn chwarae ar y daith fer gyntaf ddechrau mis Medi.
Ar gyfer yr ail daith, bydd Bitw, Ynys a SYBS yn perfformio yn Glasgow ar 9 Hydref, Manceinion ar 10 Hydref a Llundain ar 11 Hydref.