Bydd y grŵp roc o Gaerdydd, Breichiau Hir, yn rhyddhau sengl ddwbl newydd cyn diwedd mis Medi.
‘Yn Dawel Bach / Saethu Tri’ ydy cynnyrch diweddaraf y grŵp a bydd y traciau’n glanio’n swyddogol ar y llwyfannau digidol arferol ar ddydd Gwener 20 Medi.
A hwythau’n perfformio ers un ar ddeg o flynyddoedd, mae Breichiau Hir bellach yn aelodau o stabal Recordiau Libertino , a dywed y label fod y sengl yn ‘gymysgedd byrlymus o gords gwych sy’n symud o’r bygythion, miniog a ffrwydrol i dristwch synfyfyriol’ ac yn ‘destament i hyder cynyddol y band’.
Trist a thywyll
Wrth drafod y caneuon newydd, mae prif ganwr Breichiau Hir, Steffan Dafydd yn egluro fod y ddau drac yn perthyn i’w gilydd ac yn dod o’r un man creadigol ac emosiynol.
“Mae‘Saethu Tri’yn esbonio’r ofn a’r edifarhad sy’n gallu dod drosta i, a sut yr ydw i byth rili’n siŵr sut i ddelio ag e” eglura Steffan.
“Dwi ddim yn trio dramateiddio’r teimlad yn y gân, dwi’n cadw’r disgrifio’n blaen ac yn onest, yn cyfleu’r gwacter a’r diflastod sy’n dod law yn llaw a’r teimlad hwnnw. Mae’n drist ac yn dywyll.
“Mae ‘Yn Dawel Bach’ yn ymateb uniongyrchol i’r ofn dwi’n siarad amdano yn Saethu Tri. Mae’n pwyntio allan y tonnau o banig sy’n gallu dy lethu ar unrhyw adeg.
“Gall y teimlad grasho ar dy ben di lle bynnag yr wyt ti. Dyw e ddim yn gofyn caniatâd, ma fe jyst yn cyrraedd, heb wahoddiad a heb i neb ofyn amdano.”
Mae’r emosiynau bregus yma i’w clywed trwy’r ddau trac ac yn cael eu disgrifio mewn modd hyfryd. Mae’r penillion llonydd yn denu’r gwrandawydd mewn i rhyw fyd ffug-ddiogel cyn i wal enfawr o sŵn ddod i ddinistrio’r byd hwnnw.
Bydd y sengl ddwbl ar gael yn ddigidol ac ar ffurf casét nifer cyfyngedig. Bydd y grŵp yn lansio’r sengl yn swyddogol mewn gig The Dojo, Kings Road Yard, Caerdydd ar 28 Medi.