Brigyn i ryddhau seithfed albwm

Bydd Brigyn yn rhyddhau eu seithfed albwm ar label Gwynfryn Cymunedol ganol mis Tachwedd.

‘Lloer’ ydy enw record hir ddiweddaraf y ddau frawd Ynyr ac Eurig Roberts, a bydd allan yn swyddogol ar 15 Tachwedd.

Yr albwm yma fydd seithfed albwm Brig mewn gyrfa sy’n ymestyn dros bymtheg blynedd erbyn hyn.

Crynhoi hanes Brigyn

Mae’r record hir newydd yn gasgliad o ganeuon newydd, ynghyd â thraciau sy’n deillio o berfformiadau a sesiynau byw arbennig, a hynny’n fwriadol er mwyn crynhoi rhan ychwanegol o hanes Brigyn dros y ddegawd a hanner diwethaf.

Ymysg y traciau gaeafol, hiraethus, twymgalon, mae llu o gyfranwyr cyfarwydd iawn gan gynnwys Bryn Terfel, Linda Griffiths (Plethyn), Meinir Gwilym a Gareth Bonello (The Gentle Good).

Dechreuodd Ynyr ac Eurig Roberts eu gyrfa gerddorol fel aelodau o’r band Epitaph o ardal Caernarfon, cyn mynd ymlaen i ffurfio’r ddeuawd Brigyn.

Ers rhyddhau eu CD cyntaf yn 2004, mae eu cerddoriaeth melodig wedi cael ei chwarae’n gyson ar donfeddi radio a theledu yma yng Nghymru a thros y byd.

Sŵn unigryw

Mae’r gân ‘Oer’ o’r casgliad newydd yn faled wreiddiol, a ysgrifennwyd ar noson oer yng nghanol gaeaf 2017. Mae’n gân sy’n cyfleu teimlad a sain yr albwm.

Mae eu sŵn unigryw wedi eu galluogi i berfformio ym mhrif wyliau gwerinol Prydain, o’r Sesiwn Fawr a Green Man Festival yng Nghymru i’r Celtic Connections, Yr Alban.

Maent yn adnabyddus am eu fersiwn unigryw Gymraeg o ‘Hallelujah’ gan Leonard Cohen, a nifer o ganeuon cyfoes gwreiddiol. Fe enillon nhw’r wobr am y gân orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Dingle, Iwerddon.

Bydd gig lansio’r albwm yn cael ei gynnal yn Neuadd St Catherine, Pontcanna ar 15 Tachwedd a bydd CDs ar gael i’w prynu ar y diwrnod hwnnw.