Bwncath yn rhyddhau ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’

Mae’r grŵp gwerin, Bwncath, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’ ddydd Gwener diwethaf, 26 Ebrill.

Bydd y gân yn gyfarwydd i rai gan mai hon ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn gynharach eleni…nid bod ni’n cymryd lot o sylw o Cân i Gymru yma yn Selar HQ, ond rydan ni’n hoffi Bwncath!

Bryd hynny, prif ganwr Bwncath, Elidyr Glyn, oedd yn perfformio ond mae wedi penderfynu rhyddhau’r trac yn swyddogol gyda’i grŵp ar Recordiau Sain.

Mae’r dyddiad rhyddhau yn briodol gan fod Elidyr a gweddill aelodau Bwncath allan yn Letterkenny yn Iwerddon i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd dros y penwythnos.

Mae’r sengl yn ddilyniant i albwm cyntaf Bwncath, sy’n rhannu enw’r grŵp, a ryddhawyd gan is-label Sain, Rasal, yn 2017.

Mae sawl un o ganeuon yr albwm hwnnw fel‘Barti Ddu’ a ‘Curiad y Dydd’ wedi dod yn ffefrynnau ar donfeddi Radio Cymru, ac mae’n debyg fod yr albwm wedi’i ffrydio dros 200,000 o weithiau ar Spotify yn unig.

Recordiwyd ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’ yn stiwdio JigCal o dan ofal Mei Gwynedd ac aelodau Bwncath sef Elidyr Glyn (prif lais, gitâr acwstig a ffidil), Robin Llwyd (gitâr drydan, piano a llais cefndir), Alun Williams (gitâr fas a llais cefndir) a Twm Ellis (drymiau).

Bydd Bwncath yn perfformio mewn nifer o wyliau a digwyddiadau eraill dros y misoedd nesaf – checiwch ei Twitter @bwncathband a thudalen Facebook am y rhestr lawn o ddyddiadau.