‘Bwystfil Prydferth’ – rhyddhau ail sengl Dienw

Mae Dienw wedi rhyddhau eu hail sengl ar label Recordiau I KA CHING ers dydd Gwener diwethaf, 22 Tachwedd.

Rhyddhaodd y ddeuawd eu sengl gyntaf, sef ‘Sigaret’ ym mis Hydref gan greu tipyn o argraff.

Enw eu hail sengl ydy ‘Bwystfil Prydferth’.

Dienw ydy Twm Herd ar y gitâr ac yn canu, ac Osian Land sy’n chwarae’r drymiau. Maent yn disgrifo eu hunain fel “band amrwd a gonast sy’n plethu agweddau indie a psychedelic”.

Ffurfiodd Dienw yn 2017 gan dderbyn gwahoddiad i wneud sesiwn ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru yn 2018. Mae’n debyg fod enw’r grŵp yn deyrnged i o ganeuon y band Eitha Tal Ffranco a ryddhawyd ar y casgliad aml-gyfranog cysyniadol, ‘Docfeistr’ yn 2009.

Mae ‘Bwystfil Prydferth’ yn rhyw fath o gyfeiriad at y ffilm ‘Beauty and the Beast’ ac yn gân llawer mwy ‘serious’ na’r sengl gyntaf yn ôl y grŵp.

Recordiwyd y trac yn Stiwdio Drwm gydag Ifan ac Osian Candelas. Mae’r sengl allan yn ddigidol yn yr holl fannau arferol.