Cadi Gwyn Richards yn rhyddhau ‘Creithiau’

Mae’r gantores ifanc Cadi Gwyn Richards wedi rhyddhau sengl newydd o’r enw ‘Creithiau’ ar lwyfannau digidol.

Bydd enw Cadi yn gyfarwydd i nifer ar ôl iddi gipio teitl Cân i Gymru yn 2017 gyda’r gân ‘Rhydd’.

Mae’r sengl newydd wedi’i chynhyrchu gan Llyr Pari yn stiwdio Glan Llyn ym Melin y Coed.

“Mae’r gân yn sôn am bwysau bywyd yn gyffredinol a’r teimlad pan dachi mewn twll a ddim yn siŵr sut i ddod allan ohono fo” meddai Cadi Gwyn Richards am y sengl wrth sgwrs gyda’r Selar.

“weithiau yr unig beth allwch chi wneud ydi derbyn y sefyllfa a dyfalbarhau, ac mi fyddwch yn berson cryfach ar ei ôl.”

“Hefyd mae’n chwarae gyda’r syniad nad yw creithiau bob amser yn bethau negyddol – maen nhw’n dangos eich bod wedi goresgyn sefyllfa galed, yn gwella ac yn symud ymlaen, ac maen nhw’n dystiolaetho’r cryfder ’da chi wedi’i ddangos wrth wneud hynny.”

Mae’r sengl wedi’i rhyddhau’n annibynnol gan Cadi.