Canolfan Gigs newydd i Gaerfyrddin?

Roedd awgrym wythnos diwethaf y gallwn ddisgwyl gweld canolfan cerddoriaeth fyw newydd yn agor yng nghyn safle’r ganolfan gigs amlwg Y Parrot yng Nghaerfyrddin.

Roedd Y Parrot yn leoliad gigs pwysig yn y gorllewin ers sawl blwyddyn, ond yn anffodus bu’n rhaid cau drysau’r ganolfan ar Nos Calan.

Roedd y newyddion ynglŷn â’r Parrot yn cau yn ergyd fawr i gerddoriaeth fyw yn y dref, ond wythnos diwethaf cyhoeddwyd bod y lleoliad i ail-agor ar ei newydd wedd yn fuan dan yr enw ‘CWRW’.

Meddai’r datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol:

“Heddiw oedd y diwrnod cyntaf iddyn ni fod tu fewn i 32 Heol y Brenin, Caerfyrddin. Fel byddai rhai yn gwybod yn barod, dyma oedd y ‘Parrot’, ble roedd llawer o fandiau anhygoel yn chwarae gigiau.

“Mae CWRW nawr yn ail greu lle yn yr adeilad unigryw yma ar gyfer cwrw arbenning, cerddoriaeth anhygoel a bwyd blasus.

“Rydym yn awyddus i rhannu lle yma unwaith eto gyda’r gymuned leol. Os ydych â ddiddordeb yn beth sydd yn mynd ymlaen, plîs dewch mewn i ddweud helo (mae ‘Tangled Parrot’ dal i fod ar agor lan loft) neu cadwch llygaid mas ar y dudalen yma i wybod mwy.”