Bydd artist newydd, ond wyneb a llais cyfarwydd, o Ddyffryn Conwy yn rhyddhau sengl gyntaf ar 29 Tachwedd.
MÊL ydy enw prosiect cerddorol newydd Eryl Prys Jones, sef canwr y grŵp poblogaidd o Ddyffryn Conwy, Jen Jeniro.
A bydd ffans y grŵp indî-seicadelig o Lanrwst yn siŵr o gynhesu at MÊL gan fod tebygrwydd amlwg i waith blaenorol Eryl yma – cerddi clyfar a’r cysylltiad rhwng cerddoriaeth a’r byd naturiol o’i gwmpas.
Mêl i gyd
Ysgrifenwyd ei sengl gyntaf, ‘Mêl i Gyd’, wrth i Eryl gerdded ym Mharc Lyn yn Nghoedwig Gwydir ger Llanrwst.
Mae’r cerddor wedi cyd-weithio gydag un arall o gyn-aelodau Jen Jeniro, Llŷr Pari, sydd wedi cynhyrchu’r trac.
“Nes i sgwennu hi ar ddiwrnod Chwefror oer a hynod lwyd (ond sych) eleni wrth fynd am dro i Lyn Parc yng Nghoedwig Gwydir ger Llanrwst ar ben fy hun” meddai Eryl.
“Cân am amheuon, ail-feddwl, ffawd a gwacter gaeafol (mewn ffordd gymharol amwys), ond yna’r meddylfryd calonogol yn gwthio drwodd – daw dyddiau gwell na hyn.
“Ond efallai mai gorfodi fy hun i feddwl hyn ydw i? How I long to feel that summer in my heart, math o beth.”
Ac mae’n ymddangos bod mwy o gynnyrch ar y gweill gan MÊL, gyda’r cerddor yn datgelu i’r Selar bod sengl arall ar y ffordd yn fuan yn y flwyddyn newydd.
Mae’r sengl allan ar label Recordiau Libertino ar 29 Tachwedd, ond gallwch wrando arni isod hefyd.