Mae Casi & The Blind Harpist wedi rhyddhau ei sengl diweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 8 Tachwedd.
‘Heavy Tides of the Heart’ ydy enw’r sengl newydd sydd ar gael i’w lawr lwytho a ffrydio o’r mannau arferol. Sengl Saesneg ar ôl i’r prosiect ryddhau cwpl o senglau Cymraeg, ‘Tywod’ a ‘Myfanwy’ yn ddiweddar.
Caiff Casi ei hadnabod fel un o gantorion mwyaf eithriadol Cymru – mae ei threfniannau cyfoes o’i chyfansoddiadau gwreiddiol yn taenu golau newydd ar draddodiadau hynafol – gan gyflwyno elfennau corawl a cherddorfaol a’u plethu’n gynnil gydag emosiwn ei llais.
Daw’r sengl o EP newydd Casi sydd ar y gweill, gydag addewid o fwy o fanylion am y record fer yn fuan.