Cate Le Bon ar restr Gwobr Mercury

Mae Cate Le Bon, wedi ei chynnwys ar restr fer gwobr gerddorol amlwg y ‘Mercury Prize’ eleni.

Rhyddhawyd pumed albwm unigol Cate, ‘Reward’, ym mis Mai eleni, ac mae’n un o ddeuddeg record hir sydd wedi eu henwebu ar gyfer y wobr enwog.

Mae’r Mercury Prize yn cael ei dyfarnu am yr wythfed ar ugain gwaith eleni. Roedd unrhyw record hir gan artistiaid Prydeinig neu Wyddelig a ryddhawyd rhwng y dyddiadau 21 Gorffennaf 2018 a 19 Gorffennaf 2019 yn gymwys ar gyfer y wobr eleni, ac enwebwyd 200 o recordiau i’w hystyried gan y panel beirniaid. Y pump beirniad eleni ydy cyflwynydd Radio 1, Annie Mac; ffyntman y grŵp Supergrass, Gaz Coombes; y seren R & B, Jorja Smith; y rapiwr enwog, Stormzy; a golygydd gyfarwyddwr cylchgrawn Vice UK, Tshepo Mokoena.

Heb os mae’r wobr yn un uchel ei pharch, ac wedi helpu lansio, a sefydlu, gyrfa sawl artist amlwg. Enillwyr y wobr gyntaf ym 1992 oedd Primal Scream a’u halbwm enwog ‘Screamadelica’, ac mae cyn enillwyr eraill yn cynnwys Suede, Pulp, PJ Harvey, Badly Drawn Boy, Franz Ferdinand, Arctic Monkeys ac enillwyr llynedd, Wolf Alice.

Bandiau Cymreig

Nid Cate ydy’r artist Cymreig cyntaf i’w henwebu ar gyfer y wobr, ond mae mewn cwmni arbennig o dda.

Enwebwyd grŵp arall o Gymru, Super Furry Animals, am y wobr yn 2001 gyda’r albwm ‘Rings Around the World’, ac roedd Catatonia ar restr fer 1998 gyda’r record ‘International Velvet’.

Mae’r grŵp o’r Coed Duon, Manic Street Preachers wedi cyrraedd y rhestr fer yn 1996 a 1999, ac roedd y Stereophonics ar y rhestr gyda nhw ym 1999.

Daw Cate Le Bon yn wreiddiol o Sir Gâr a daeth i’r amlwg i ni yng Nghymru gyntaf fel canwr y grŵp o’r Gorllewin, Alcatraz. Rhyddhaodd ei chynnyrch unigol cyntaf dan yr enw Cate Le Bon ar ffurf y sengl ‘No One Can Drag Me Down / Disappear’ yn 2007’, cyn rhyddhau ei halbwm cyntaf, ‘Me Oh My’ yn 2009.

Rhyddhaodd eu phumed albwm, ‘Reward’, ym mis Mai eleni ar label Mexican Summer.

Bydd enillydd y wobr yn cael ei g/chyhoeddi mewn seremoni fyw ar 19 Medi.

Enwebiadau llawn gwobr Mercury 2019:

  • Anna Calvi – Hunter
  • Black Midi – Schlagenheim
  • Cate Le Bon – Reward
  • Dave – Psychodrama
  • Foals – Everything Not Saved Will Be Lost
  • Fontaines DC – Dogrel
  • Idles – Joy As an Act of Resistance
  • Little Simz – Grey Area
  • Nao – Saturn
  • SEED Ensemble – Driftglass
  • Slowthai – Nothing Great About Britain
  • The 1975 – A Brief Inquiry Into Online Relationships