Chroma’n cipio gwobrau

Y grŵp roc o Bontypridd, Chroma, oedd un o brif enillwyr Gwobrau Cerddoriaeth Caerdydd a gynhaliwyd yn y Tramshed, Grangetown nos Wener diwethaf, 29 Mawrth.

Cipiodd y grŵp dwy-ieithog y wobr am yr ‘EP/Sengl’ orau am y sengl ddwbl ‘Girls Talk / Nos Da Susanna’ a ryddhawyd gan label Popty Ping ym mis Tachwedd llynedd. Roedden nhw hefyd yn llwyddiannus yn y categori ‘Fideo Gorau’ am y fideo i ‘Girls Talk’ a gynhyrchwyd gan Trigger Happy Creative.

Set byw gan Chroma hefyd yn cloi y noson nos Wener, oedd hefyd yn cynnwys setiau gan MADI, Hana2k, Mace a DJ Jaffa.

Roedd y ganolfan amlwg ar Stryd y Fuwch Goch, Clwb Ifor Bach, yn enillydd amlwg arall wrth iddyn nhw gipio teitl ‘Hyrwyddwr Rhanbarthol Gorau’, ‘Hyrwyddwr Gorau’, ‘Lleoliad Annibynnol Gorau’ a ‘Leinyp Gorau’r Flwyddyn’

Gŵyl Sŵn enillodd y wobr am yr ŵyl orau, ac roedd llwyddiant i’r grŵp Boy Azooga hefyd yng nghategorïau’r ‘Albwm Gorau’, ‘Band Byw Gorau’ a’r ‘Grŵp Gorau’

Yr enillwyr eraill oedd:

Gwasg Gerddoriaeth Orau: Minty’s Gig Guide

Artist Unigol Gorau: MADI

DJ Gorau: GRLTLK

Pencampwyr Cerddoriaeth sy’n cael ei dan-gynrychioli:  Ladies of Rage

Artist Newydd Gorau: Al Moses

Cynhyrchydd Gorau: Romesh Dodangoda

Noson Glwb Orau: Blue

Lleoliad Masnachol Gorau: Tramshed

Hyrwyddwr Lleol Gorau: Liz Hunt o The Moon

Ffotograffydd Cerddoriaeth Gorau: Bethan Miller

Sioe Radio Orau: Bethan Elfyn

Cynhyrchiad Digwyddiad Gorau: Music Box