Chroma’n mynd a ‘sin gerddoriaeth ddeinamig’ i Gatalwnia

Mae Chroma newydd ddychwelyd o chwarae mewn gŵyl yng Nghatalwnia gan ddweud bod y profiad yn un “anhygoel” a phwysig mewn cyfnod lle mae “diwylliannau’n cael eu cau i ffwrdd”.

Roedd y grŵp wedi eu gwahoddi berfformio yng Ngŵyl Mercat de Musica Viva da Vic yng Ngatalwnia ar 18 Medi diolch i bartneriaeth rhwng yr ŵyl a Focus Wales yn Wrecsam.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ers 31 o flynyddoedd yn ninas Vic, ac yn llwyfannu dros 70 o artistiaid mewn 9 lleoliad. Roedd Chroma’n perfformio mewn lleoliad o’r enw Carpa Vermella.

Cerddoriaeth ddeinamig Cymru

Wrth drafod y profiad, dywed prif ganwr Chroma, Katie Hall fod perfformio yn yr ŵyl yn werthfawr dros ben iddynt, a’u bod yn falch i ddangos bod sin gerddoriaeth ddeinamig yma yng Nghymru.

“Roedd y profiad o whare yng Ngatalwnia yn hollol anhygoel” meddai Katie.

“Cawsom ein gwahodd gan ŵyl Focus Wales i chwarae’r gig, ac mi wnaethon ni gwrdd â bandiau o bob rhan o’r byd.

“Dwi’n meddwl bod y tirlun gwleidyddol ar hyn o bryd yn golygu ei bod yn debygol bod diwylliannau’n cael eu cau ffwrdd o’i gilydd.

“O’n i’n teimlo bod hi’n bwysig i ni chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn yr ŵyl, gan roi gwybod i bobl o bob rhan o’r byd bod yna sin gerddoriaeth ddeinamig yng Nghymru, ar wahân i Brexit a Phrydain.”

Bydd Chroma’n perfformio nôl yng Nghymru ac yn Undeb y Myfyrwyr, Caerdydd nos Wener yma.

 

Llun: Chroma ar y llwyfan yng Nghatalwnia (llun gan y band)