Chroma’n rhyddhau ‘Tair Ferch Doeth’

Mae Chroma wedi rhyddhau eu sengl newydd, ‘Tair Ferch Doeth’ ddydd Gwener diwethaf, 6 Rhagfyr.

Dechreuodd y trac newydd fel cân yn trafod sut roedd Katie Hall, prif leisydd y grŵp, yn gweld eisiau ei chyn-gariad yn Rhydychen.

Ond, ar ôl i wahaniaethau mawr rhwng y ddau ddod â’r berthynas y ben, aeth y gantores ati i ysgrifennu ynglŷn â sut yr effeithiodd y berthynas ar ei hunan-hyder a’i theimladau at gymdeithas ac academiaeth.

Mae’r gân yn archwilio naratif dau berson gwahanol iawn i’w gilydd yn cerdded trwy ddinas sy’n llawn cestyll tywod, yn ofni bod popeth am gwympo arnynt.

“Roeddwn i’n awyddus i’r gân fynegi’r syniad bod strwythurau cymdeithasol yn gwneud y byd yn le peryg i fenywod” meddai Katie.

“…boed hynny mewn perthynas, yn y gwaith neu yn y byd academaidd. Mae’r teitl yn cyfeirio at y ffaith bod rhaid i fenywod fyw mewn ‘byd dyn’ o oedran ifanc iawn.”

Mae’r sengl allan yn ddigidol ar y llwyfannau arferol ar label Recordiau Don’t Talk Over Me.

Dyma fideo o’r gân a recordiwyd fel rhan o sesiwn Maida Vale y gwnaeth Chroma gyda chynllun Gorwelion:

CHROMA – Tair Ferch Doeth – Sesiwn Maida Vale

GWYLIO/WATCH: CHROMA – Tair Ferch Doeth (Sesiwn BBC Maida Vale Studios London) – more here: https://bbc.in/2P5JhMk BBC Cymru Wales Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales BBC Music Introducing

Posted by Horizons / Gorwelion on Monday, 9 December 2019